Rhagolygon am fwy o law trwm yn cynyddu'r perygl o lifogydd ledled Cymru

Tir isel a chaeau wedi'u llifogi

Gyda rhagolygon am fwy o law trwm i Gymru dros nos ac i ddydd Sadwrn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl am beryglon llifogydd pellach wrth i ardaloedd yn Ne Cymru sydd eisoes yn teimlo effaith y glawiad trwm gael eu heffeithio unwaith eto.

Ceir rhagolygon am law trwm ar draws y rhan fwyaf o'r wlad drwy gydol nos Wener (13 Ionawr) i ddydd Sadwrn, ac mae llifogydd dŵr wyneb yn debygol o amharu ymhellach ar ardaloedd De a De Ddwyrain Cymru lle mae lefelau dŵr wyneb yn dal i fod yn uchel yn dilyn glawiad diweddar.

Nid yw CNC yn darparu rhybuddion llifogydd ar gyfer llifogydd dŵr wyneb, lle nad yw dŵr glaw yn draenio drwy'r systemau draenio arferol nac yn ymdreiddio i'r ddaear.

Mae natur ysbeidiol a dwys y glawiad sy'n achosi llifogydd dŵr wyneb yn ei gwneud hi'n anodd iawn rhagweld yn gywir ble bydd llifogydd dŵr wyneb yn digwydd. Gyda hynny mewn golwg, mae CNC yn gofyn i bobl wirio eu risg o lifogydd dŵr wyneb drwy ddefnyddio’r adnodd gwirio cod post ar ein gwefan ac i wneud y paratoadau priodol.

Gyda lefelau afonydd yn dal i fod yn uchel iawn a'r tir eisoes yn llawn dŵr yn dilyn wythnosau o law, mae'r perygl o lifogydd o afonydd hefyd yn cynyddu gan fod dyfroedd yn debygol o godi'n gyflym.

Mae staff CNC yn monitro rhagolygon a rhagfynegiadau glaw, yn barod i anfon rhybuddion llifogydd os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau penodol.

Mae swyddogion hefyd allan mewn cymunedau ledled Cymru, yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, yn gwirio amddiffynfeydd ac yn sicrhau bod unrhyw gridiau a sgriniau draenio yn glir er mwyn lleihau'r risg i bobl a'u cartrefi.

Dywedodd Kelly McLauchlan, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:

“Er y bydd glaw trwm yn disgyn ledled Cymru dros nos, mae potensial i'r glaw trymaf effeithio ar Dde Cymru eto - gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd eisoes wedi profi effeithiau llifogydd dros y dyddiau diwethaf.
“Gydag afonydd eisoes yn llawn a gyda'r ddaear mor wlyb, rydym yn disgwyl gweld llawer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi os bydd afonydd yn cyrraedd lefelau penodol eto.
“Gan nad yw CNC yn darparu rhybuddion ar gyfer llifogydd dŵr wyneb, rydym yn annog pobl i wirio a ydynt yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb ac afonydd ar ein gwefan gyda'n hadnodd syml i wirio cod post.
“Rydym hefyd am atgoffa pobl i beidio â gyrru na cherdded drwy ddyfroedd llifogydd - nid oes modd gwybod beth sydd oddi tano. Cadwch lygad ar ragolygon y tywydd ac ewch i'n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhybuddion llifogydd. Gallwch ddod o hyd i gyngor ymarferol ar lifogydd ar ein gwefan hefyd.”

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. Gall pobl hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim naill ai drwy ffonio rhif Floodline neu ar wefan CNC www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd