Galw am farn am gynllun i reoli coedwigoedd ger Carno

Gofynnir i bobl sy'n ymweld â, neu'n defnyddio coedwigoedd ger Carno a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am eu barn am gynllun i reoli coedwigaeth leol.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhoi cyfle i drigolion ddylanwadu ar reolaeth y coedwigoedd am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Mae'r cynllun yn cynnwys chwe choetir ym Mhowys sy'n cwmpasu tua 324 hectar a'i nod yw cynyddu'r amrywiaeth o rywogaethau coed i wneud y coetiroedd yn fwy gwydn i newid hinsawdd, a phlâu a chlefydau. Ei nod hefyd yw cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren masnachol.

Dywedodd Richard Phipps, Uwch Swyddog CNC - Cymorth Cynllunio Coedwigoedd:
"Mae coedwig sy'n cael ei rheoli'n dda yn cynnig pob math o fanteision i'r hinsawdd, bioamrywiaeth, yr economi leol ac i les pobl.
"Rydym yn gofyn i bobl sy'n treulio amser yn y coedwigoedd yma i roi eu barn ar ein cynllun i sicrhau ei fod o fudd i'r ardal."

Mae modd darllen ac ymateb i'r cynlluniau drwy ymweld â gwefan ymgynghori CNC trwy’r ddolen: https://bit.ly/CACCarno.

Neu, gall pobl ffonio 0300 065 3000 a gofyn am siarad gyda swyddogion CNC sydd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad. Oddi yno byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall pobl sydd eisiau anfon adborth drwy'r post i: Tŷ Cambria, 29 Newport Road, Caerdydd, CF24 0TP.

Bydd angen dychwelyd pob adborth a chwestiwn erbyn 27 Ebrill 2023 fan bellaf.