Cymerwch ran yn ystod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru eleni

Gwahoddir pobl o bob cwr o Gymru i ddathlu byd natur a'r awyr agored wrth i wythnos o ddigwyddiadau ddychwelyd.

Nod Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru, sy'n cael ei chynnal rhwng 24-30 Ebrill, yw annog ac ysbrydoli addysgwyr, athrawon, grwpiau dysgu, a theuluoedd yng Nghymru i ymgorffori dysgu awyr agored ym mywyd yr ysgol a’r teulu, a mwynhau’r buddion niferus a ddaw yn sgil hynny.

Lansiwyd y digwyddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored, a hynny yn 2019. ‘Dysgu actif yn yr awyr agored’ yw’r thema eleni er mwyn helpu i greu unigolion iach a hyderus.

Gall pobl gymryd rhan drwy fynd i un o'r digwyddiadau sydd wedi'u trefnu ledled Cymru, neu jyst drwy fynd am dro mewn coedwig leol, neu ar hyd y traeth neu barc.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Rydym yn falch o gynnal y bedwaredd Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru gyda Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored ac rydym am annog pobl - yn hen ac ifanc - i gysylltu â byd natur a'r amgylchedd.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod cysylltu â natur yn dda i ni a'r amgylchedd ehangach, gan annog ymddygiadau cadarnhaol gydol oes.
"Mae buddion sylweddol dysgu yn yr awyr agored o ran iechyd a lles yn hysbys, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei argymell fel dull allweddol o gyflwyno'r Cwricwlwm Newydd i Gymru.
"Mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i arddangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau addysgol, yn ogystal ag i deuluoedd a'r cyhoedd yn ehangach - beth bynnag fo'ch oedran."

Trwy gydol yr wythnos, bydd aelodau CNC a Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn cyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau ar y cyd i gefnogi pobl i ymwneud â byd natur ac i helpu i ymgorffori dysgu ym myd natur - ac am fyd natur - ym mywyd yr ysgol a bywyd y teulu. 

Mae Ffion Owen yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Morfa Rhianedd, Llandudno, a fu'n cymryd rhan yn Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru y llynedd. Meddai:

"Fe gawson ni wythnos brysur iawn yn dathlu Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru'r llynedd. Mi wnaeth y plant ieuengaf ddefnyddio adnoddau naturiol i ysgrifennu eu henwau ac mi wnaethon nhw greu clociau a dawnsio yn y glaw. 
"Mi wnaeth y plant hŷn helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer ein Dydd Mercher Mwdlyd a lansiwyd y llynedd ac sydd wedi bod yn llwyddiant mawr. Mi wnaethon ni rannu llawer o syniadau ar sut i fanteisio ar dir ein hysgol ac archwilio'r potensial sydd yma. Eleni rydyn ni’n gobeithio ehangu ein sgiliau dysgu awyr agored yn fwy fyth."

Meddai Kate Peacock, Pennaeth dros dro Ysgol Gynradd Tryleg yn Sir Fynwy:

"Rydyn ni’n croesawu dysgu yn yr awyr agored yn Nhryleg gan ei fod yn datblygu sgiliau cymdeithasol, hyder ac yn gwella dysgu.
"Mae bryniau, coetiroedd a chaeau yn amgylchynu'r pentref ac mae ganddo nifer o henebion hanesyddol sy'n golygu bod digon o gyfleoedd i fynd â’n dysgwyr allan i archwilio a darganfod mwy am yr ardal leol.
"Rydyn ni’n gweld ochr wahanol a chadarnhaol i ddiddordeb y disgyblion yn ystod ein sesiynau dysgu awyr agored ac rydyn ni’n mwynhau'r sesiynau hyn drwy gydol y flwyddyn."

Mae aelodau Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored ymhlith y bobl sy'n edrych ymlaen yn fawr at wythnos brysur.

Hefyd yn cymryd rhan, mae: Ymddiriedolaeth John Muir, Gwobr Dug Caeredin, Ieuenctid dros Natur y Deyrnas Unedig, RSPB, BBNP, Cadw, Prifysgol Bangor, Prifysgol Met Caerdydd, Antur Natur, Urdd Gobaith Cymru, Canolfannau Awyr Agored CBS Conwy, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Cyngor Astudiaethau Maes, OEAP, a Dŵr Cymru.

Mwy o wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Addysg, dysgu a sgiliau (naturalresources.wales)