Disgwyl glaw trwm ledled Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofyn i bobl fod yn barod am lifogydd posib gan y disgwylir glaw trwm a pharhaus ledled y wlad y penwythnos hwn

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law ar gyfer y rhan helaeth o Gymru, gyda disgwyl y bydd llawer iawn o law’n disgyn ar fryniau a mynyddoedd, yn enwedig felly yn ucheldir Eryri a gogledd Ceredigion.

Gallai’r glaw mawr a ddisgwylir arwain at lifogydd posib o’r afonydd mewn rhai ardaloedd.

Rhagwelir llifogydd dŵr wyneb hefyd, a allai beri llifogydd ar ffyrdd lleol, yn ogystal â llifogydd o ddraeniau, ffosydd a nentydd bychain.

Ceir rhagolygon am wyntoedd cryfion ar yr arfordir ym Mae Caernarfon, Bae Ceredigion a rhan orllewinol Môr Hafren, lle disgwylir i rai hyrddiadau gyrraedd 50 neu 60 mya.

Mae’n bosib hefyd y bydd tonnau mawr ar y glannau dros y diwrnodau nesaf o ganlyniad i ymchwydd mawr o’r de-orllewin, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n annog pobl sy’n byw ger yr arfordir i fod yn ofalus a chadw draw o lwybrau glan môr a morgloddiau.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyhoeddi Negeseuon a Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd yn codi at eu lefelau sbardun.

Meddai Gary White, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae’r glaw trwm rydym yn ei ddisgwyl yn debygol o achosi llifogydd ymhob cwr o’r wlad dros y diwrnodau nesaf a’r penwythnos, ac felly rydym yn cynghori pobl i gadw golwg ar unrhyw rybuddion llifogydd yn eu hardaloedd nhw.
Bydd ein gweithwyr argyfwng yn ymateb mewn mannau allweddol, gan sicrhau bod yr amddiffynfeydd yn gadarn a bod unrhyw sgriniau a gridiau draenio wedi’u clirio er mwyn lleihau’r perygl i bobl a’u cartrefi.
Cofiwch fod dŵr llifogydd yn eithriadol o beryglus, ac ni ddylai pobl geisio cerdded na gyrru drwyddo, oni bai fod rhywun o’r gwasanaethau brys yn gofyn iddynt wneud.

Mae gennym wasanaeth newydd ar ein gwefan sy’n dangos lefelau Glaw, Afonydd a’r Môr, yn ogystal â negeseuon a rhybuddion llifogydd a gaiff eu diweddaru bob 15 munud: www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd

Yn ôl y rhagolygon bydd y glaw trwm yn parhau tan fore Sul.