Pysgod arbennig yn dychwelyd i’w cynefin

Mae prosiect cadwraeth i hybu goroesiad y Torgoch prin yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos hon. (Dydd Mercher a Dydd Gwener 21 a 23 Hydref 2020).

Mae rhyw 7500 o Dorgoch ifanc, a fagwyd yn Neorfa Cynrig Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael eu rhyddhau i’w llyn brodorol yn Llanberis, Gwynedd.

Yn oroeswr rhyfeddol o Oes yr Iâ, mae'r Torgoch i'w ganfod mewn dim ond ychydig o lynnoedd dŵr croyw dwfn yng Nghymru gan gynnwys Llyn Padarn.

Ym mis Rhagfyr 2019, casglodd CNC wyau’r Torgoch o Afon y Bala, sy'n llifo i Lyn Padarn.

Nawr, ar ôl deng mis o ofal a gwaith caled, mae'r Torgoch ifanc yn barod i gael eu ryddhau i'r llyn.

Dywedodd Walter Hanks, Swyddog yr Amgylchedd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Aeth y rhaglen fagu yn dda iawn ac yn awr, gyda’r Torgoch yn mesur tua 12cm o hyd ac yn pwyso tua 13.25 gram, mae’n wych eu gweld yn dychwelyd i’w cynefin naturiol i barhau â’u cylch bywyd.
“Mae gwaith wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd i wella ansawdd dŵr yn Llyn Padarn, yr unig ddŵr ymdrochi mewndirol dynodedig, sydd bellach wedi’i raddio’n rhagorol. Mae'r gwaith hwn yn talu ar ei ganfed, gan helpu i warchod y pysgod arbennig yma.
“Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith yma fel bod bywyd gwyllt yn parhau i ffynnu yn Llyn Padarn a'r cyffiniau.
“Mae amgylchedd naturiol cyfoethog ac iach nid yn unig yn newyddion da i fyd natur - mae’n hwb i’r gymuned leol gyfan ac ymwelwyr â’r ardal. Yn ei dro, mae hyn o fudd i'r economi leol. ”

Cewch gipolwg ar y Torgoch yn Llyn Padarn fan hyn:

 https://www.youtube.com/watch?v=jIgt7BR7vKY