‘Daliwr coed’ arloesol yn lleihau’r perygl o lifogydd i gannoedd o drigolion Caerdydd

Polion y daliwr coed ar draws yr Afon Elai yng Nghaerdydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cwblhau cynllun i leihau'r perygl o lifogydd i 490 o eiddo yn ardaloedd Trelái a'r Tyllgoed yng Nghaerdydd.

Roedd y cynllun yn cynnwys adeiladu strwythur ‘dal coed' i fyny'r afon o ble mae Afon Elái yn llifo dan Heol Orllewinol y Bont-faen (yr A48) i leihau'r siawns y bydd coed a gwrthrychau mawr eraill yn cael eu dal o dan y bont.

Mae'r bont yn adnabyddus fel tagfa, a hyd yn oed petai’r strwythur yn cael ei rwystro’n rhannol gallai hynny arwain at lifddwr yn cronni ac yn gorlifo dros lannau’r afon, sydd eisoes wedi cyfrannu at lifogydd a effeithiodd ar gartrefi a busnesau yn yr ardal.

Mae'r ‘daliwr coed’ yn cynnwys saith polyn wedi’u trefnu’n igam-ogam ar draws yr afon, â digon o le rhyngddynt i dargedu malurion mawr a fyddai fel arall yn cael eu dal ger y bont.

Wrth i lefelau dŵr godi yn ystod glaw trwm, bydd malurion sydd wedi'u dal gan y polion yn arnofio ar yr wyneb, gan ganiatáu i ddŵr lifo oddi tanynt ac i lawr yr afon.

Drwy ddal malurion mewn lleoliad diogel i fyny'r afon o'r bont, mae'r perygl o lifogydd yn cael ei leihau.

Meddai Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru, CNC:

“Mae’r daliwr coed yn ffordd arloesol o leihau’r risg o lifogydd i drigolion Caerdydd.
"Rydyn ni i gyd wedi gweld y difrod diweddar y mae llifogydd wedi'i achosi i fywydau pobl ledled Cymru. Ddwy flynedd ers stormydd dinistriol Chwefror 2020, teimlwyd effeithiau y llifogydd ledled Cymru ac maent yn dal i gael eu hysgythru yn ein meddyliau.
"Bydd newid hinsawdd yn dod â thywydd eithafol a llifogydd yn ei sgil, a hynny’n amlach. Er na allwn fyth atal pob llifogydd, byddwn yn dal i fuddsoddi'r cyllid yr ydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru i reoli perygl llifogydd yng Nghymru yn y ffordd orau bosibl, gan weithio'n agos gyda chymunedau lleol i ganfod y cyfuniad gorau o fesurau sy'n mynd i'r afael â'r bygythiadau penodol."

Mae ramp mynediad ac ardal brosesu hefyd wedi'u hadeiladu ar lan yr afon ger y daliwr coed i hwyluso’r gwaith o gael gwared o’r rhwystrau a'u torri’n ddarnau er mwyn eu cludo oddi yno. Bydd unrhyw falurion sy’n ymgasglu yn cael eu monitro gan gamera teledu cylch cyfyng.

Mae ffens yn diogelu'r ardal brosesu, ac mae coed a llwyni wedi'u plannu i'w chuddio rhag y llwybr troed a beicio cyfagos.

Mae ramp mynediad eilaidd hefyd wedi'i adeiladu ger y bont i helpu i glirio unrhyw groniad o falurion, gwaddodion a cherrig o dan y bont os oes angen.

Costiodd y cynllun £957,000 a chafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

"Rwy'n falch bod y gwaith o adeiladu Daliwr Coed Trelái ar gyfer lliniaru llifogydd wedi'i gwblhau a hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a'u contractwyr am eu gwaith caled yn cyflawni'r hyn."
"Bydd y prosiect arloesol hwn yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gannoedd o gartrefi cyfagos ar adegau pan fydd llif Afon Elái yn uchel.
"Mae'r Daliwr Coed Trelái yn un yn unig o gannoedd o brosiectau lliniaru llifogydd a fydd yn elwa ar fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth, a bydd yn helpu i ddiogelu mwy na 45,000 o gartrefi.
"Dros y tair blynedd nesaf, a thrwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £238 miliwn er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau llifogydd ac erydu arfordirol sydd wedi’u hamlinellu yn y Rhaglen Lywodraethu."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Pont Elai