Tirlithriad yn nyffryn Conwy

logo cyfoeth naturiol cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gofyn am gymorth gan beirianwyr arbenigol yn dilyn tirlithriad sylweddol yn Nyffryn Conwy.

Gwnaed hyn ar ôl darganfod tirlithriad yn ardal Crafnant ger Trefriw yn dilyn storm Ciara.

 Meddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau’r Gogledd Orllewin, CNC:

"Rydym yn gweithio'n gyflym gyda nifer o bartneriaid i fonitro'r tirlithriad a chanfod a oes unrhyw symudiadau.
"Yn y cyfamser, mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a CNC wedi cynghori preswylwyr naw eiddo i adael eu cartrefi gan fod pryder bod yr ardal hon yn parhau i fod yn ansefydlog a bod perygl uniongyrchol i eiddo a phriffyrdd yn yr ardal.
"Mae ffyrdd a llwybrau ar gau, ac rydym yn cynghori pobl i gadw draw o'r ardal."

 Bydd staff CNC yn gweithio â’r arbenigwyr geowyddoniaeth a pheirianneg i fonitro'r tirlithriad dros y penwythnos pan ddisgwylir rhagor o law yn ystod storm Dennis.