Arbenigwyr yn cwrdd yn Aberystwyth er mwyn creu etifedd parhaol i fawndiroedd

GNG Cors Caron (Credyd ffotograffiaeth Drew Buckley Photography)

Bydd cynhadledd ryngwladol i archwilio’r manteision gwerthfawr y mae mawndiroedd yn eu darparu i bobl a’r amgylchedd naturiol yn digwydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth 4-6 Hydref 2022.

Y 12fed gynhadledd Rhaglen Mawndiroedd IUCN UK (IUCN UKPP) fydd y cyfarfod mwyaf o arbenigwyr mawndiroedd mewn dros dair blynedd a bydd yn cynnwys 250 o wyddonwyr mawndir, cadwraethwyr, rheolwyr tir a gwneuthurwyr polisi o’r DU a thu hwnt.

Bydd y rhaglen 3 diwrnod yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau a theithiau maes sydd wedi eu cynllunio i archwilio sut y gellir creu etifedd parhaol o fawndiroedd iach ar draws y DU.

Gall mawndiroedd mewn cyflwr da helpu ymladd yn erbyn newid hinsawdd, drwy wella ecosystemau, a gweithio gyda chynefinoedd a nodweddion naturiol er mwyn darparu amrywiaeth o fanteision i bobl a’r amgylchedd.

Mewn amodau iach mae mawndiroedd yn storio ac yn hidlo dŵr - gan leihau llifogydd i lawr yr afon a darparu dŵr yfed glan; maent yn sbwng carbon - yn amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer. Maen nhw hefyd yn gartrefi ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt prin a phwysig ac yn lleoedd gwych i fwynhau’r amgylchedd naturiol.

Gan fod cymaint o fawndiroedd y DU ar hyn o bryd mewn cyflwr llygredig, mae’r datrysiadau hyn sy’n seiliedig ar natur o dan fygythiad. Yr her nawr yw ail-adfer ein mawndiroedd a sicrhau eu llesiant yn y tymor hir.

Mae Rhaglen Mawndiroedd IUCN UK (IUCN UK PP) yn gweithio er mwyn gwneud hyn trwy adeiladu partneriaethau ar y cyd rhwng gwyddonwyr, Cyrff Anllywodraethol, busnesau, rheolwyr tir a’r Llywodraeth.

Meddai Stuart Brooks, Cadeirydd IUCN UK PP: “Mae’r cyfraniad y mae Cymru a gweddill y DU wedi ei wneud i gadwraeth mawndiroedd yn fawr iawn a dylai ein cymuned deimlo’n falch iawn o’r ffaith yna.”
“Yn y DU rydym wedi adeiladu sylfaen o wybodaeth ac enw ardderchog ar draws y colofnau gwyddoniaeth, polisi, economeg ac adnewyddu ymarferol. Dyma fu wrth wraidd ein Rhaglen o’r dechrau a’r rheswm dwi’n meddwl ein bod yn gweld gwledydd eraill ledled y byd yn dechrau efelychu’r ymagwedd gyfannol hon."
Meddai Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd a fydd yn annerch y gynhadledd: “Mae adfer Mawndiroedd yn hanfodol i’n hymateb i’r argyfyngau natur a hinsawdd, ac i ddiogeli a rheoli dŵr. Mae gan Gymru, ynghyd a holl genhedloedd y DU, gyfrifoldeb unigryw a byd eang dros warchod a gwella’r adnodd arbennig a meidrol hwn ar gyfer y dyfodol.”
“Mae llawer ar ôl i ni ei wneud ac i ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd. Dyma’r cyfarfod cyntaf wyneb yn wyneb ers 2019 ac maen ysbrydoledig gweld yr ystod eang o bynciau, siaradwyr a theithiau sy’n arddangos gwahanol ymagweddau adfer, rheoli ac ymgysylltu.”

Bydd y gynhadledd hefyd yn nodi llwyddiannau prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE. Daw’r prosiect i ben ddiwedd mis Mawrth 2023 ar ôl dros bum mlynedd o waith i adfer cyforgorsydd ledled Cymru. 

Hyd yn hyn, mae hyd at 80km o fynds mawn wedi eu gosod i gadw dŵr yn ôl ar y mawndiroedd - gan eu cadw nhw’n wlypach am amser hirach a helpu storio rhagor o garbon o’r atmosffer.

Yn ogystal â hyn, mae tua 92 hectar (bron i 227 cae pêl droed) o wair Molina trwchus wedi ei dorri, a fydd yn agor wyneb y gors ac yn caniatáu i fwsogl pwysig y sphagnum i sefydlu a ffynnu.

Meddai Jake White, Arweinydd Tîm o brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol iawn i’r prosiect ond rydym yn falch o rannu ein bod wedi rhagori ar ein targedau.
“Rydym wrth ein bodd yn cynnal y gynhadledd ac yn edrych ymlaen at rannu ein gwaith - ein cyflawniadau a’n heriau - gyda chymaint o arbenigwyr mawndiroedd.”

Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ymweld â nifer o safleoedd mawndir yng Ngheredigion ac ymhellach, fel gwaith Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, Cors Fochno (rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi) a Chernydd Carmel ger Crosshands.

Caiff gweithredu adfer mawndir parhaus Llywodraeth Cymru ei gyllido trwy Raglen Weithredu Mawndir Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn parhau i gydlynu adfer mawndir mewn cydweithrediad â phartneriaid yng Nghymru.

Caiff y gynhadledd ei noddi gan brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru,  a Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i chynnal mewn partneriaeth â’r Rhaglen Weithredu Mawndiroedd Cenedlaethol  a Pennine PeatLIFE.

Am ragor o wybodaeth am waith Rhaglen Mawndir IUCN UK ewch i: www.iucn-uk-peatlandprogramme.org