Cyfoeth Naturiol Cymru yn creu cyfle partneriaeth ar gyfer coetir newydd yn Ynys Môn

Tyn Y Mynydd

Mae'r cymunedau o amgylch Ty’n y Mynydd ar Ynys Môn yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i fynd i gytundeb partneriaeth hirdymor gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac i helpu i lunio'r cynlluniau ar gyfer y coetir newydd yn yr ardal hon.

Cafodd y tir ei brynu gan CNC ym mis Chwefror y llynedd fel rhan o brosiect ehangach i gynyddu gorchudd coetir ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru a chyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Yn dilyn canlyniadau'r cyfleoedd ymgynghori cyhoeddus ar-lein ac wyneb yn wyneb a gynhaliwyd ym mis Mehefin y llynedd, mae'r safle wedi ei rannu’n ddwy ardal i helpu i fodloni'r amcanion a nodwyd fel rhan o'r adborth.

Bydd yr ardal gyntaf (tua 4.5ha) yn cael ei phlannu fel coetir cymysg a bydd yn cynnwys rhywogaethau fel derw, cyll, oestrwydd, ceirios du, pinwydd yr Alban a gwifwrnwydd y gors er mwyn helpu i sicrhau gwydnwch yn erbyn bygythiad plâu a chlefydau a newid yn yr hinsawdd.

Mae'r ail ardal (tua 6.5ha) yn cael ei gynnig fel cyfle i weithio mewn partneriaeth i helpu i ddarparu cyfleoedd cynaliadwy i dyfu bwyd, coed, cefnogi adferiad byd natur ac fel lle i’r gymuned.

Mae cymunedau ac unigolion lleol yn cael eu gwahodd gan CNC i gyflwyno eu syniadau drwy Ddatganiad o Ddiddordeb. Ceir rhagor o fanylion yma:Login, e-PIMS (cabinetoffice.gov.uk)

Er enghraifft, gallai syniadau ar gyfer y bartneriaeth gynnwys cynlluniau ar gyfer coetir cymunedol, amaethyddiaeth neu dyfu bwyd cymunedol, neu berllannau.

Yna, bydd CNC yn gweithio gyda chynigion llwyddiannus i gyd-ddylunio'r cyfleoedd a gynigir gan y bartneriaeth a chreu cytundeb.

Bydd y coetir newydd yn rhan o fenter plannu coed Canopi Gwyrdd y Frenhines a’r nod yw dechrau’r gwaith plannu ym mis Mawrth 2023 pan fyddwn yn cynnal diwrnodau plannu i wirfoddolwyr, fel y gall pobl ddod i gymryd rhan.

Dywedodd Miriam Jones-Walters, Cynghorydd Arbenigol Stiwardiaeth Tir ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydyn ni'n falch iawn o allu cynnig gwaith partneriaeth fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer y coetir newydd ac rydym am ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu hadborth gyda ni.
Os ydych chi'n cynrychioli grŵp cymunedol neu'n ffermwr lleol, mae hwn yn gyfle cyffrous i ni allu gweithio mewn partneriaeth â'r rhai sy'n byw a gweithio yn y cymunedau cyfagos i brofi a dangos ffyrdd y gallwn gynyddu gorchudd coed mewn modd sy’n cyd-fynd â ffyrdd eraill o ddefnyddio’r tir.
Byddem yn annog pobl sydd â diddordeb yn y cyfle hwn i rannu eu syniadau gyda ni.

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb yw Mawrth 15. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gweld y cynlluniau ar gyfer y safle drwy dudalen prosiect CNC: Creu coetir yn Nhy’n y Mynydd — cyfle i weithio mewn partneriaeth - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)