Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pwyll cyn stormydd anrhagweladwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn ofalus ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt ar 10 Awst a allai achosi llifogydd yn gyflym yn yr ardaloedd y caiff eu heffeithio fwyaf.

Er bod y rhybudd yn cwmpasu'r wlad gyfan, mae lefel uchel o ansicrwydd ynghylch pa rannau o Gymru a fydd yn gweld y stormydd mwyaf difrifol.

Dywedodd Scott Squires, Rheolwr Tactegol CNC ar Ddyletswydd:

“Rydym yn disgwyl i stormydd mellt ddatblygu ledled Cymru yn hwyrach y prynhawn yma ac i mewn heno ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd tywydd melyn.
“Bydd y stormydd hyn yn lleol iawn ond gallai’r glaw fod yn drwm pan fyddant yn digwydd. Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd y stormydd yn effeithio fwyaf ar Ganolbarth a Gogledd Cymru ac y byddant yn dod â gwyntoedd cryfion, mellt a glaw trwm.
“Rydyn ni'n gofyn i bobl gymryd gofal o dan yr amodau hyn – yn enwedig os maent yn dod ar draws llifogydd ar balmentydd a ffyrdd.
“Gallai fod llifogydd lleol, a fydd yn datblygu yn gyflym iawn, gan y gallai systemau draenio gael eu llenwi ble mae'r cawodydd trymaf.
“Gallai rhai afonydd llai orlifo eu banciau, yn enwedig mewn ardaloedd serth, bryniog ac mewn ardaloedd trefol. Gall gyrru fod yn beryglus a gall fod tarfu ar systemau trafnidiaeth gyhoeddus, felly cofiwch edrych am y tywydd diweddaraf a'r wybodaeth teithio cyn i chi deithio.
“Rydym yn cadw mewn cysylltiad agos ag awdurdodau lleol a'n partneriaid brys i sicrhau bod pobl a chymunedau mor barod â phosibl ar gyfer y stormydd anrhagweladwy hyn. Disgwylir i'r patrwm tywydd hwn bara o ddydd Llun i ddydd Iau.”

Mae CNC yn argymell bod pobl Cymru yn cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd drwy'r Swyddfa Dywydd ac adroddiadau tywydd eraill, ac i ddefnyddio gwefan CNC i weld y diweddaraf ar rybuddion llifogydd.