CNC yn lansio ymgynghoriad ar reoli dalfeydd ar gyfer Gwy a Wysg

pysgodyn

Bydd ymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion ar gyfer is-ddeddfau newydd i reoli dalfeydd pysgota eogiaid ar afonydd Gwy ac Wysg yn cychwyn heddiw (19 Gorffennaf 2021).

Bydd ymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion ar gyfer is-ddeddfau newydd i reoli dalfeydd pysgota eogiaid ar afonydd Gwy ac Wysg yn cychwyn heddiw (19 Gorffennaf 2021).

Mae CNC yn annog pysgotwyr a phartïon â buddiant i ddweud eu dweud ar is-ddeddfau newydd arfaethedig. Y gobaith yw y bydd y mesurau newydd arfaethedig yn cyfrannu at wrthdroi'r dirywiad presennol yn nifer yr eogiaid aeddfed sy’n dychwelyd i afonydd Gwy a Wysg.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i fynegi barn ar yr is-ddeddfau arfaethedig, sy'n bwriadu gwella'r siawns y bydd eogiaid yn goroesi a chynyddu ymhellach y niferoedd a all silio yn llwyddiannus; gan arwain at adferiad a chynaliadwyedd tymor hir y rhywogaeth eiconig hon yn y dyfodol.

Daw'r is-ddeddfau presennol sy'n gorfodi dal a rhyddhau ar afonydd Gwy a Wysg i ben ym mis Rhagfyr ac mae'r cynigion hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod stociau'n cael eu gwarchod.

Dywedodd Peter Gough, Prif Swyddog Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae pryderon parhaus ynghylch nifer yr eogiaid sy’n dychwelyd i’n hafonydd ac mae dyfodol llawer o bysgodfeydd bellach dan fygythiad.
Yn syml, nid oes digon o bysgod aeddfed yn silio i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.
Rydym ni nawr yn ceisio barn ar y cynigion rheoli dalfeydd a fydd yn amddiffyn stociau bregus wrth gynnal y buddion amgylcheddol ac economaidd pwysig sy'n gysylltiedig â physgota.
Mae CNC yn mynd i’r afael â ffactorau eraill sy’n effeithio ar stociau pysgod fel difrod i gynefinoedd, llygredd a chamfanteisio anghyfreithlon, ond mae’n credu y gall y cynigion hyn wneud gwahaniaeth go iawn.

Y cynigion yw:

Afon Gwy

  • Ei gwneud yn ofynnol dal a rhyddhau'r holl eogiaid a brithyllod y mor
  • Diwygio dyddiad gorffen y tymor eogiaid fel ei fod yn rhedeg rhwng 3 Mawrth a 17 Hydref ar gyfer yr holl afon a'r llednentydd

Afon Wysg

  • Ei gwneud yn ofynnol dal a rhyddhau'r holl eogiaid
  • Ei gwneud yn ofynnol dal a rhyddhau'r holl brithyllod y mor cyn 1 Mai

Byddai’r is-ddeddfau ar waith tan 31 Rhagfyr 2029 i gyd-fynd â diwedd is-ddeddfau ‘Cymru Gyfan’ a ‘Thrawsffiniol’.

Bwriad yr is-ddeddfau hyn yw amddiffyn stociau sydd dan fygythiad, wrth gynnal llawer o'r buddion pwysig sy'n gysylltiedig â'r pysgodfeydd.

Ychwanegodd Peter:

Yn union fel y mae Gwy a Wysg yn afonydd eiconig, mae’r eog yn bysgodyn eiconig a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod stociau’n gwella ac yn ffynnu yn y dyfodol.
Rydym ni’n cydnabod yr angen am ddull dalgylch cwbl integredig ar gyfer ein hafonydd ar y ffin ac rydym ni’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol.

Mynegwch eich barn ar y cynigion trwy fynd i: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/evidence-policy-and-permitting-tystiolaeth-polisi-a-thrwyddedu/wye-and-usk-byelaws-2021