Dyfroedd ymdrochi Sir Benfro: doedd hi ddim wastad fel hyn

Yng nghornel dde-orllewinol Cymru mae Sir Benfro, lle hardd sy'n denu miliynau o dwristiaid bob blwyddyn ac sydd ar hyn o bryd yn dathlu’r ffaith bod ganddo rai o ddyfroedd ymdrochi glanaf y Deyrnas Unedig.

Mae gan y sir 29 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig - bron i draean o’r holl rai yng Nghymru - ac mae’r canlyniadau diweddaraf o Adroddiad Ansawdd Dyfroedd Ymdrochi Cymru 2020 yn dangos bod 27 o’r rheini wedi cyflawni’r statws ‘rhagorol’ uchaf, gyda’r ddau arall yn cyrraedd statws ‘da’.

Mae'r tymor samplu dŵr ymdrochi fel arfer yn ymestyn o 15 Mai i 30 Medi ac mae’n gyfle i brofi ansawdd dŵr pob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig o amgylch Cymru. Caiff samplau dŵr eu cymryd i ffwrdd, eu dadansoddi mewn labordy arbenigol a'u hasesu yn erbyn meini prawf penodol.

Ar ddiwedd y tymor bydd y canlyniadau'n cael eu casglu ar gyfer pob dŵr ymdrochi a'u defnyddio i asesu'r dŵr fel 'gwael', 'digonol', 'da' neu 'rhagorol'.

Mae hyn yn golygu y gall trigolion lleol a'r miliynau o dwristiaid sy'n heidio i Sir Benfro gael trochiad yn y môr yn ddiogel gan wybod eu bod yn nofio yn rhai o'r dyfroedd glanaf yn y DU.

Ond doedd hi ddim wastad fel hyn.

Mae Rod Thomas, sy’n uwch swyddog amgylchedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi byw yn Sir Benfro ar hyd ei oes, ac wedi gweithio fel swyddog amgylchedd o fewn CNC ers dros 30 mlynedd.

Yma mae Rod yn sôn am sut mae gweithio mewn partneriaeth ac ymrwymiad ar y cyd i greu newid wedi sicrhau mai Sir Benfro yw’r sir â’r nifer uchaf o ddyfroedd ymdrochi â statws rhagorol yng Nghymru.

Nid hap a damwain oedd newid

Cefais i fy ngeni a'm magu yn Sir Benfro. Dwi wrth fy modd yma ac yn ymweld â'n traethau mor aml ag y galla i. 

Dwi mor falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni, ac o fod yn rhan o Dîm Amgylchedd Sir Benfro sydd wedi chwarae rhan mor enfawr wrth weddnewid safon ein dyfroedd ymdrochi.

Nid hap a damwain oedd y newid hwn. Mae'n ganlyniad i lawer o waith caled gan bawb a gyfrannodd at yr ymgyrch.

Y tri phrif fater – twristiaeth, trin carthion a ffermio

Achoswyd ein problemau yn ein dyfroedd ymdrochi gan gyfuniad o bethau, a'r tri phrif fater oedd:

  • effaith twristiaeth
  • systemau carthffosiaeth oedd angen eu hadnewyddu
  • effeithiau amaethyddiaeth

Gweithio mewn partneriaeth a Strategaeth Draethau Sir Benfro

Dechreuon ni gyflawni newid pan aeth sefydliadau ati i gyd-dynnu, gan weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r broblem. Dechreuodd Dŵr Cymru wneud gwelliannau i'w systemau rheoli gwastraff, tra aeth CNC ati'n rhagweithiol i ymweld ag ardaloedd i nodi problemau llygredd. Yn ogystal, nododd Cyngor Sir Penfro gamgysylltiadau mewn carthffosydd a gorfodwyd is-ddeddfau cŵn i ganiatáu cŵn mewn ardaloedd cyfyngedig ar y traethau dynodedig.

Yn 2018 fe wnaethon ni ffurfioli'r gwaith partneriaeth hwn gyda lansiad Strategaeth Draethau Sir Benfro (2018-2021). Mae hyn yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau pob sefydliad a dyma fu ein map trywydd tuag at newid cadarnhaol parhaus i geisio sicrhau bod 'ymweliad â thraeth yn Sir Benfro yn gystal profiad ag y gall fod.'

Mae gan bob traeth stori i'w hadrodd

Mae gan bob traeth ei stori ei hun i'w hadrodd ac yn dangos yr ystod o broblemau llygredd a all effeithio ar ein dyfroedd ymdrochi.

Buon ni’n gweithio gyda ffermwr lleol mewn un ardal a oedd yn awyddus i helpu i ddiogelu statws Baner Las traeth lleol. Newidiodd y ffermwr ei arferion i sicrhau nad oedd gwartheg yn cael sefyll yn y nant uwchben y traeth. Drwy ddarparu ffynhonnell dŵr yfed amgen, a diogelu ansawdd dŵr y nant, cyflawnodd y traeth statws 'rhagorol'.

Wiseman’s Bridge

Yn ôl yn 2011, cafodd y dŵr ymdrochi yn Wiseman’s Bridge ei raddio'n 'wael', y safon isaf posibl. Roedd posibilrwydd gwirioneddol y byddai angen arwyddion i gynghori pobl i beidio â nofio yno. Roedd hon yn her wirioneddol i CNC, Cyngor Sir Penfro, a'r holl sefydliadau yr oedd hyn yn effeithio arnynt, yn ogystal â'r economi leol sy'n dibynnu cymaint ar dwristiaeth.

Mae'r traeth wedi'i amgylchynu gan safleoedd carafannau, yn ogystal ag eiddo â systemau carthffosiaeth preifat. Cynhaliwyd ymgyrch atal llygredd helaeth yn yr ardal. Buon ni’n ymweld â'r holl safleoedd carafannau, ffermydd a thai lleol a oedd yn defnyddio tanciau septig. Daethon ni o hyd i amrywiaeth o broblemau gan gynnwys camgysylltiadau.

Roedd gan sawl safle carafannau safleoedd trin carthion preifat a oedd yn hen ac nad oedd felly’n gweithio'n effeithiol iawn. Y canlyniad oedd carthffrydiau o ansawdd gwael yn cael eu rhyddhau i'r nant a oedd yn arwain at y traeth. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad i berchnogion safleoedd. Ystyrion nhw hyn i gyd a rhagori ar yr hyn a oedd yn ofynnol, gan fuddsoddi mewn systemau trin carthffosiaeth newydd. Mae'r dechnoleg yn cynnwys defnyddio triniaeth golau uwchfioled ynghyd â system gwelyau cyrs ac mae'n arwain at ddŵr 'mor glir â jin'.

Ar ôl saith mlynedd o welliannau parhaus, mae gan y traeth hwn statws 'rhagorol' erbyn hyn, sy'n llwyddiant ysgubol!

Nid yw'n hawdd, ond mae newid yn bosibl

Nid yw gwella ansawdd dŵr ymdrochi yn hawdd, ond mae'n sicr yn bosibl. Mae gofyn bod sefydliadau’n gweithio gyda'i gilydd, gan wneud cynnydd fesul tipyn dros gyfnod hir o amser. Allen ni ddim gwneud hynny heb gymorth busnesau a thirfeddianwyr lleol.

Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wneud mwy o welliannau. Fy mreuddwyd fyddai i bob un o'r 29 o ddyfroedd ymdrochi ennill statws rhagorol.

Os trown ni ein cefnau ar hyn a rhoi'r gorau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud, bydd ansawdd dyfroedd ymdrochi yn gostwng eto. Dydw i yn sicr ddim am i hynny ddigwydd.

Arhoswch yn ddiogel yn ein dyfroedd yr haf hwn

Os ydych chi’n bwriadu ymweld â rhai o arfordiroedd neu afonydd a llynnoedd mewndirol Cymru yr haf hwn, sicrhewch eich bod yn cymryd camau ychwanegol i gadw eich hun a'ch teulu'n ddiogel o amgylch dŵr, drwy asesu'r risgiau cyn i chi fynd i mewn i'r dŵr a rhoi mwy o sylw i'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas.

Dysgwch fwy am sut i gael amser diogel a dymunol yn yr awyr agored yn Adventure Smart UK, a dilynwch y cyngor yng Nghod y Glannau a'r Cod Nofio yn y Gwyllt – rhan o deulu'r Cod Cefn Gwlad.

Mae Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cymru 2020 ar gael i'w weld yma, Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Dŵr Ymdrochi yng Nghymru 2020.

Gallwch hefyd edrych i weld beth yw ansawdd dŵr ymdrochi pob ardal ddynodedig yma