Rhannwch eich barn a helpwch i lunio sut mae pobl yn mwynhau Niwbwrch a'r ardal gyfagos

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i'r cyhoedd rannu eu barn ynglŷn â sut mae'n rheoli Gwarchodfa Natur a Choedwig Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn.

Bydd Cynllun Pobl Niwbwrch yn rhoi arweiniad i CNC a phartneriaid o ran rheoli mynediad, gweithgareddau, yr amgylchedd naturiol, treftadaeth, a diwylliant ar y safle.

Mae CNC eisiau gweithio gyda thrigolion, ymwelwyr a grwpiau cymunedol, i sicrhau bod y safle'n cael ei reoli'n gyfrifol gan hefyd ddiwallu anghenion ei ddefnyddwyr.

Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Gogledd-orllewin Cymru ar ran CNC:

"Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd yw'r safle gyda thrigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac mae pobl yr un mor bwysig â natur a choetir yn Niwbwrch.
"Mae deall sut maen nhw'n defnyddio’r safle a beth yw eu hanghenion yn rhan sylweddol o wybod sut i reoli'r lle deinamig a chyfnewidiol hwn yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, er mwyn i ni allu cydweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
"Mae gweithio gyda'r gymuned leol a phartneriaid allweddol yn rhan bwysig o fod yn gymydog da ac mae ein Cynllun Pobl ar gyfer pawb sy'n mwynhau Niwbwrch, a phawb sudd â buddiant neu gyfrifoldebau yno.”

Bydd y cynllun hefyd yn amlinellu sut i barhau â’r sgwrs at y dyfodol i sicrhau bod y safle’n cael ei reoli er budd defnyddwyr, gan hefyd gydymffurfio gyda’n cyfrifoldebau cyfreithiol fel rheolwr y tir.

Ychwanegodd Justin:

"Rydym wedi gwneud llawer o waith yn y gorffennol yn siarad â phobl, darganfod eu pryderon a bydd hynny'n bwydo mewn i'r gwaith yma. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain gan na fydd rhai meysydd yn dod o dan ein cylch gorchwyl, felly rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned, rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol fel Cyngor Sir Ynys Môn i gael eu barn ar sut y gallwn ddatblygu'r cynllun hwn.
"Mae'r cynllun hwn yn rhan o’r broses o integreiddio rheolaeth Niwbwrch fel rhan o un cynllun cydlynus. Er ei bod yn bwysig bod gan Niwbwrch gynllun penodol ar gyfer pob agwedd ar y safle, mae'n bwysig hefyd bod y cynlluniau'n ategu ei gilydd."

Gall aelodau’r cyhoedd gwrdd â staff CNC yn Sefydliad Prichard Jones, Niwbwrch, LL61 6SY, fel rhan o sesiwn ymgysylltu anffurfiol i rannu profiadau a syniadau. Nid oes angen archebu lle. 

Y dyddiadau yw:

Dydd Llun, 22 Mai: 11am tan 3pm

Dydd Mawrth, 23 Mai: 9.30am tan 3pm

Dydd Mercher, 24 Mai: 3pm tan 7pm

Dydd Iau, 25 Mai: 11am tan 7pm

Dydd Gwener, 26 Mai: 10am tan 2pm

Gall y rheiny sy’n methu bod yn bresennol ymuno yn y drafodaeth ar-lein.