Y diweddaraf ar brosiect Arglawdd Tan Lan

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael clywed y diweddaraf am brosiect rheoli perygl llifogydd sy'n canolbwyntio ar yr arglawdd presennol ger Llanrwst.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i rannu canfyddiadau o fodelau llifogydd gwaelodlin sydd wedi'u diweddaru, yn ogystal ag opsiynau gwahanol sy'n cael eu hystyried ar gyfer Arglawdd Tan Lan.

Mae'r model newydd yn darparu data ar effaith llifogydd o afonydd a’r llanw ar yr arglawdd 3.2km o hyd, sydd i'r gogledd o Lanrwst, a'r cyffiniau.

Meddai Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau - Rheoli Llifogydd a Dŵr, Gogledd Cymru:

"Rydym yn awyddus i barhau â'n sgwrs gyda'r preswylwyr a'r rhanddeiliaid mewn perthynas ag Arglawdd Tan Lan. Rydym wedi trefnu'r digwyddiadau hyn i rannu canfyddiadau'r model gwaelodlin newydd gyda'r gymuned.
"Rydyn ni'n annog cymaint o bobl â phosib i ddod draw i siarad â ni, i ddysgu mwy a rhannu eu barn.
"Wrth i'r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, yn ogystal â chynnydd yn lefel y môr, a bydd digwyddiadau llifogydd yn digwydd yn amlach. 
"Trwy ddefnyddio'r model wedi’i ddiweddaru, gallwn asesu a chymharu'r perygl o lifogydd i gymunedau ar draws y dyffryn cyfan ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau tywydd garw a senarios newid hinsawdd.
"Bydd hyn o gymorth wrth i ni geisio nodi opsiynau i reoli perygl llifogydd mewn ffordd gynaliadwy i'r cymunedau, eiddo, tir, gwasanaethau a seilwaith yn Nhan Lan.
"Bydd yr adborth a gesglir yn ein helpu wrth i ni gwblhau ein hasesiad o restr hir o opsiynau sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr arglawdd ac i gynhyrchu rhestr fer o opsiynau ar gyfer asesiad mwy manwl yn gynnar yn 2023."

Cynhelir y sesiynau galw heibio ddydd Mercher, 30 Tachwedd rhwng 3pm a 7pm a dydd Iau, 1 Rhagfyr rhwng 10am a 2pm yn Llyfrgell Llanrwst, Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF.

Os na allwch fod yn bresennol ond yr hoffech rannu eich barn neu glywed y diweddaraf, cysylltwch â: tan.lan@grasshopper-comms.co.uk neu 01492 701381.