Bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn elwa o waith coetir

Mae cynefinoedd a bywyd gwyllt ar safleoedd coetir hynafol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn elwa o waith adfer bioamrywiaeth.

Mae’r gwaith, sy’n cael ei ariannu gan £750,000 o Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal yng Nghoedwig Gwydir yng Ngwynedd, Coedwig Dyfi yng Ngheredigion a choetiroedd Dyffryn Gwy yn Sir Fynwy i helpu i wrthdroi effaith yr argyfwng natur a lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

Mae'n cynnwys teneuo conwydd a rheoli rhywogaethau anfrodorol i adael golau i mewn i goetiroedd i ddatblygu llystyfiant ar y ddaear.

Mae hyn yn darparu cysgod i rywogaethau pwysig fel pathewod ac yn creu ffynonellau neithdar ar gyfer pryfed peillio.

Dywedodd Patrick Green, rheolwr CNC ar gyfer y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ar Ystad Llywodraeth Cymru:

“Bydd ein swyddogion yn parhau â’r gwaith pwysig hwn am y ddwy flynedd nesaf i greu rhwydweithiau cydgysylltiedig o gynefinoedd wedi’u hadfer – sy’n wych i fywyd gwyllt a phobl.
“Bydd rhywogaethau anfrodorol ymledol iawn fel rhododendron a sbriws hemlog y Gorllewin, sy’n gallu cysgodi llystyfiant mewn coetir, yn cael eu symud i wella cynefinoedd ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys cennau prin, pathewod, ystlumod pedol lleiaf a phryfed peillio.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith i reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a mynd i’r afael â’r argyfwng natur. Bydd yn creu rhwydweithiau cynefin mwy cydnerth a chydgysylltiedig ac yn cyflwyno mwy o amrywiaeth strwythurol a genetig i’n coetiroedd.”

Dechreuodd y gwaith y gaeaf diwethaf a bydd yn parhau tan o leiaf fis Mawrth 2025.

Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen a gyflwynir mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd daearol a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur ac annog ymgysylltiad cymunedol.