Adfer bywyd yn ôl i bedair afon yng Nghymru trwy’r prosiect LIFE

Cafodd y prosiect cadwraeth mwyaf i helpu i adfer bywyd gwyllt ar bedair afon bwysig yn Ne Cymru ei lansio ar ddydd Gwener 28 Hydref 2022.

Bydd y Prosiect 'Pedair Afon LIFE' dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn diogelu, yn gwella ac yn helpu i adfer afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg. Amcangyfrifir y bydd 776km o afon yn cael ei gwella.

Yma mae Susie Kinghan, Rheolwr Prosiect Pedair Afon LIFE yn dweud mwy wrthym am y prosiect helaeth hwn.

Bydd y prosiect, a gefnogir gan Raglen LIFE yr UE gyda chyllid yn cael ei ddarparu hefyd gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru, yn gweld dros £9 miliwn yn cael ei wario i fynd i'r afael â heriau cadwraeth brys dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Wella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol – yn fwyaf nodedig eog yr Iwerydd, llysywen bendoll y môr ac afon, pennau lletwad a gwangod. Bydd dyfrgwn a misglod perlog yr afon yn elwa hefyd.
  • Ail-naturioli darnau o afonydd wedi'u sythu fel eu bod yn ymdroelli unwaith eto. Bydd hyn o fudd i fywyd gwyllt yn ogystal â’r cymunedau sy’n amgylchynu’r afonydd gan y gall arafu’r llif leihau’r perygl o lifogydd i lawr yr afon.
  • Gweithio gyda ffermwyr i ddiogelu coridorau afonydd a lleihau gwaddodion a maetholion rhag mynd i mewn i afonydd. Bydd gan hyn y fantais ychwanegol o ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed pwysig.
  • Lleihau effaith rhywogaethau anfrodorol ymledol mewn 180km o afon. Bydd rhywogaethau fel Jac y Neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan, ac efwr enfawr yn cael eu rheoli.

Mae'r afonydd yn cael eu dosbarthu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer y bywyd gwyllt a'r planhigion y mae’r afon yn gartref iddynt, megis eog, llysywen bendoll, gwangen, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Mae’r pedair afon eiconig hyn mewn cyflwr anffafriol ar hyn o bryd o ganlyniad i lawer o wahanol bwysau. Byddwn yn gweithio gyda llawer o wahanol grwpiau dros y pum mlynedd nesaf i helpu i wneud yr afonydd hyn yn lleoedd y gall bywyd gwyllt ffynnu ynddynt a lle gall pobl eu mwynhau.

Mewn cyflwr iach, mae ein hafonydd yn gyforiog o rywogaethau fel llysywod, glas y dorlan, ystlumod, llygod y dŵr, cimychiaid yr afon a mwy! Maent hefyd yn bwysig ar gyfer dŵr yfed, genweirio, nofio ac ardaloedd llifogydd naturiol sy’n amddiffyn cymunedau i lawr yr afon.

Bydd y prosiect Pedair Afon LIFE yn defnyddio atebion tymor hir sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd ecolegol y pedair afon, gwella hygyrchedd i bysgod mudol, gwella strwythur a swyddogaeth cynefinoedd ac ansawdd dŵr, newyddion gwych i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl.

Rydym yn falch iawn i wiethio efo nifer o partneriaid fel rhan o’r prosiect a hoffwn ddiolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Ganolfan Adfer Afonydd, Rheolwr y Ganolfan Ymchwil Amaethyddiaeth (ARC) Coleg Sir Gâr a Choed Cadw, Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru am eu cefnogaeth hyd yn hyn.

I ddarganfod mwy ewch i wefan y prosiect cyfoethnaturiol.cymru/4AfonLIFE

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru