5 ffordd y gall yr awyr agored ein helpu i ymdopi ag unigrwydd

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae rhai ohonom wedi gorfod dod i delerau â bod ar ein pennau ein hunain am adegau hir. Rydym ni'n dod allan o gyfnodau o ynysu, a gall effaith negyddol yr amseroedd hyn greu pryder cymdeithasol - yn enwedig i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu wedi colli pobl.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, mae Ffion Browning o’n tîm Iechyd, Addysg a Chyfoeth Naturiol, yn rhannu rhai syniadau ar gyfer defnyddio’r awyr agored i ymdopi â theimladau o unigrwydd.

1.    Ewch allan ben bore

Mae bod ynghanol byd natur yn ffordd brofedig o wella iechyd a lles meddyliol a chorfforol. Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith gerdded fer mewn llecyn gwyrdd neu wyrddlas gerllaw, newidiwch eich dull cymudo i’r gwaith neu dewch â’ch brecwast allan i’r awyr agored er mwyn cael ychydig o olau’r haul ac amgylchynwch eich hun â byd natur.

Mae cael rhywfaint o olau dydd ben bore, hyd yn oed os yw'r haul y tu ôl i'r cymylau, yn eich helpu i deimlo'n fwy effro ac yn rhoi mwy o egni i chi am weddill y dydd. Mae hefyd yn sefydlogi eich rhythm beunyddiol (eich cloc mewnol), sy'n golygu y byddwch yn cysgu'n well pan ddaw'n amser mynd i'r gwely.

Mae gallu gwerthfawrogi llonyddwch natur ben bore yn gallu lleihau lefelau straen a bwydo’ch ymennydd â’r hapus cemegau hapus hynny e.e. serotonin. Mae hyn i gyd yn cael effaith gadarnhaol ar weddill eich diwrnod.

2.    Chwiliwch am fainc “hapus i sgwrsio”.

Gall cael sgwrs fach ar ddiwrnod pan fyddwch chi'n teimlo'n unig wneud byd o wahaniaeth. Os yw gwneud y cam cyntaf hwnnw’n teimlo’n rhywbeth brawychus, cadwch olwg am feinciau “hapus i sgwrsio” yn eich ardal leol fel na fyddwch yn ansicr a ydych chi’n gallu mynd ymlaen at rywun.

Mae’r meinciau fel arfer wedi’u lliwio’n llachar gydag arwydd yn dweud, “eisteddwch yma os nad oes ots gyda chi bod rhywun yn stopio i ddweud helo.” Dechreuwyd y syniad gan Allison Jones yng Nghaerdydd ac mae mor boblogaidd fel ei fod wedi lledaenu ar draws y byd.

Os nad oes mainc “hapus i sgwrsio” yn eich ardal leol, gallwch osod arwydd eich hun neu godi’r syniad gyda’ch cyngor lleol. Mae’n well cael yr arwydd wedi’i lamineiddio fel na fydd yn cael ei ddinistrio gan dywydd hyfryd Cymru.

3.    Ymunwch â grŵp gwirfoddolwyr neu grŵp gweithgaredd yn eich ardal

Mae bob amser mwy yn digwydd yn eich cymdogaeth nag y gwyddoch, hyd yn oed os ydych wedi byw yno ers 20 mlynedd. Mae gerddi cymunedol, grwpiau cerdded, cyfleoedd gwirfoddoli, er enghraifft, i gyd yn ffyrdd gwych o dreulio amser yn yr awyr agored yn eich ardal leol a chwrdd â phobl newydd ar yr un pryd.

Os ydych chi’n mwynhau cerdded, mae gan Ramblers Cymru (Cymdeithas Edward Llwyd) grwpiau cerdded ar hyd a lled Cymru gydag ystodau gwahanol o anhawster a phellter, felly mae rhywbeth ar gael at ddant pawb.

Os ydych chi eisiau bod hyd yn oed yn fwy egnïol, gallech ymuno â chlwb rhedeg neu grŵp chwaraeon awyr agored yn eich cymuned leol. Fel arfer mae opsiynau ar gyfer pob lefel, felly os ydych chi newydd ddechrau neu heb ymarfer ers amser maith, fe fyddwch chi'n teimlo bod croeso i chi yn rhywle.

4.    Archwiliwch rywle newydd

Os yw cerdded o amgylch eich cymdogaeth neu weithle lleol yn mynd yn beth ailadroddus, neilltuwch ddiwrnod i fentro allan i rywle pellach.

Gwnewch ychydig waith ymchwil er mwyn gweld pa mor agos ydych chi at Lwybr Arfordir Cymru neu Lwybr Cenedlaethol, neu edrychwch am fannau gwyrdd nad ydych chi wedi bod iddyn nhw o’r blaen sy’n hawdd i chi allu eu cyrraedd.

Edrychwch ar ein Lleoedd i ymweld â nhw er mwyn dod o hyd i lwybrau ag arwyddbyst mewn coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn eich ardal chi. Efallai y bydd eich hoff fan cerdded newydd yn nes atoch nag y tybiwch!

5.    Gwylio natur yn blaguro

Mae'r pandemig wedi dangos i ni fod gyda ni angen sylfaenol i fod yn agos at natur. Trwy gydol hanes dynoliaeth rydym wedi bod yn rhan o natur ac yn gysylltiedig â hi.

Ewch ati i feithrin eich cyswllt personol â natur trwy gymryd amser i sylwi ar olygfeydd a synau'r tymor. O alaw trydar yr adar i liwiau llachar clychau’r gog, y gwanwyn yw’r tymor pan fydd byd natur yn dod yn fyw. Rydyn ni wedi dewis pum coetir lle gallwch chi fwynhau taith gerdded yn llawn o liwiau’r gwanwyn.

Os na allwch fynd allan, gallwch fwynhau gwylio byd natur gartref gyda gwe-gamera nyth Gweilch y Pysgod yng Nghoedwig Hafren.

Gall cysylltu â natur eich helpu i deimlo’n rhan o’r byd a lleihau teimladau negyddol o unigrwydd ac unigedd.

Cofiwch fod yn garedig wrthoch chi'ch hun a mynd ati’n araf i ddod o hyd i'r ffordd orau i chi gwrdd â phobl newydd, os mai dyna sydd ei angen arnoch i beidio â bod yn unig. Gall gofalu amdanoch eich hun eich helpu i werthfawrogi treulio amser ar eich pen eich hun a hynny mewn ffordd wahanol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru