Cysylltu â natur yn y gaeaf

Dyma ein hymgynghorydd iechyd, Steven Meaden, yn trafod buddion treulio amser yn mwynhau natur a’r amgylchedd naturiol, yn ogystal â chynnig ffyrdd o wneud y gorau o’r awyr agored y gaeaf hwn.

I lawer, mae oerni’r gaeaf a’r dyddiau byrrach yn golygu treulio mwy o amser dan do a bod yn fwy eisteddog wrth i ni fyw, gweithio, dysgu a chwarae dan do.

Mae gwaith ymchwil gan Y Cerddwyr yn nodi mai’r tywydd yw’r prif reswm dros beidio â mynd allan am dro, ond mae digonedd o resymau pam y dylai pob un ohonom lapio’n gynnes a mynd allan i’r awyr agored yn y gaeaf.

Mae llawer o bethau hardd i’w mwynhau

Mae’r gaeaf yn cynnig nodweddion tymhorol unigryw sy’n gallu codi calon yn ystod y misoedd oerach, megis golygfeydd o eira ar y mynyddoedd, a planhigion wedi’u gorchuddio â barrug.

Yn ystod y cyfnod tawelach hwn o’r flwyddyn, efallai na fydd unrhyw un arall yn ymweld â llecyn poblogaidd ar yr un pryd â chi. Ac mae diod poeth i gynhesu bob amser yn braf ar ôl treulio amser allan yn yr awyr iach a’r oerni.

Mae bod yng nghanol byd natur yn llesol i ni

Ceir llawer o dystiolaeth bod mynd allan i’r amgylchedd naturiol yn llesol i ni mewn llawer o wahanol ffyrdd. 

Mae mynd allan i fyd natur yn gallu:

  • helpu i wella ein hwyliau trwy leihau lefelau straen a gorbryder
  • helpu i ffurfio patrymau cwsg da
  • rhoi hwb i’ch system imiwnedd
  • annog creadigrwydd
  • cefnogi eich lles corfforol a meddyliol

Mae cysylltu â natur yn dda i’r amgylchedd

Ac nid dyna’r cyfan. Mae cysylltu â natur hefyd yn fuddiol i’r amgylchedd naturiol ei hun.

Trwy ddysgu a gwerthfawrogi byd natur, rydym yn fwy tebygol o gymryd camau i’w ddiogelu, a’i warchod fel bo cenedlaethau’r dyfodol hefyd yn gallu ei fwynhau.

Mae ein model Camau Cynnydd yn dangos sut mae  bod yng nghanol natur ac ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol yn gallu dylanwadu ar ymddygiad cadarnhaol a fydd yn ein hannog i ofalu am ein byd.

Ffyrdd o gysylltu gyda natur yn ystod y gaeaf

Mynd am dro ganol dydd

Gwnewch y gorau o olau dydd, lapiwch yn gynnes ac ewch allan i fwynhau ychydig o awyr iach yng ngolau dydd.  Ewch am dro i’r parc, neu allan i’r ardd, neu hyd yn oed sefyll y tu allan i’ch drws ffrynt am ychydig funudau.

Os ydych yn gweithio gartref, mae’n hawdd colli’r cyfleoedd i werthfawrogi buddion byd natur, felly gwnewch y gorau o bob egwyl, ac ewch allan.

Crwydro o stepen eich drws

Gall darganfod y mannau agored wrth stepen eich drws fod yn ddifyr.  Efallai y byddwch yn darganfod parc newydd neu afon gerllaw, neu ailddarganfod hen lecyn hoff.

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, ewch i’n tudalen we: Lleoedd i ymweld â nhw, i ddarganfod eich coetir neu warchodfa natur leol.

Mae’n amser gwych i ddechrau cynllunio ar gyfer teithiau hirach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Beth am wneud adduned Blwyddyn Newydd i grwydro #LlwybrauCymru, gan eich herio eich hun i gerdded pellter hir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru neu un o Lwybrau Cenedlaethol eraill Cymru:

Yn y gaeaf, mae’n hynod o bwysig gofalu fod gennych y gêr cywir, eich bod yn cael golwg ar y tywydd ac yn gofalu fod gennych yr wybodaeth a’r sgiliau priodol ar gyfer y diwrnod o’ch blaen. Darllenwch gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Cerdded a sgwrsio

Beth am ystyried cyfnewid galwad ffôn neu fideo am gyfarfod wrth gerdded.  Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod cyfarfodydd wrth gerdded yn fwy dymunol, yn llesol i’n cyrff ac yn fwy cynhyrchiol hefyd.

Sgrin werdd

Mae tystiolaeth yn dangos bod edrych ar lun o natur hyd yn oed yn cynnig buddion cadarnhaol. Er bod mwy o fuddion o fedru cyffwrdd, arogli a chlywed yr amgylchedd naturiol, gall newid llun eich sgrin i ddelweddau o fyd natur, neu osod planhigion o’ch amgylch gael effeithiau cadarnhaol hefyd.

Mynd ar droed

Gwnewch y mwyaf o bob cyfle i fod allan yn yr awyr agored, gan wneud eich siwrnai i’r gwaith neu unrhyw siwrnai angenrheidiol arall mor actif ag y gallwch.  Parciwch y car ychydig yn bellach, a cherddwch y rhan olaf, neu mentrwch ar eich beic ddwywaith neu dair yr wythnos, ac mi wnaiff eich cadw chi a’r beic rhag rhydu.

Pawb yn elwa!

O wneud ymdrech i dreulio amser yn yr amgylchedd naturiol, a’i werthfawrogi, byddwch chi a’r amgylchedd yn elwa.  Nid yn unig y byddwch yn teimlo’n well yn feddyliol a chorfforol o fod yn yr awyr agored, byddwch yn meithrin y cyswllt agos â byd natur, ac yn cymryd camau i’w warchod ar gyfer y dyfodol.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru