Cyflogi Cynllunydd Adnoddau Coedwigoedd yng Nghanolbarth Cymru!

Rydym yn cyflogi Cynllunydd Adnoddau Coedwigoedd yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n gyfle cyffrous i gael rôl uniongyrchol mewn cynllunio dyfodol cynaliadwy ar gyfer Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru. Mike Indeka yw un o'n Cynllunwyr Adnoddau Coedwigoedd, a buodd yn esbonio mwy am y gwaith gwerthfawr mae'n ei wneud, a sut mae ei rôl yn ffurfio rhan ganolog o #TeamNRW.


Beth yw'r gwaith?
Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn rheoli Ystâd Coedwig Llywodraeth Cymru - o'r dechrau i'r diwedd. Rydym yn gwneud popeth o gynllunio, plannu a theneuo, i dorri a gwerthu pren.

Fel Cynllunydd Adnoddau Coedwig, dw i’n llunio cynlluniau 30 mlynedd newydd ar gyfer y coedwigoedd rydym yn rheoli. Mae'r swydd yn ddelfrydol i unrhyw un sydd am gael rôl uniongyrchol mewn helpu Cymru i gyrraedd dyfodol cynaliadwy. Rwy'n gwybod bod fy ngwaith yn rhan bwysig o gynllunio coedwigoedd a bydd yn cael effaith am ddegawdau.

Mae'r broses gyfan yn dibynnu ar gynllunio'n ofalus ac adolygu'r holl dystiolaeth i sicrhau bod ein coedwigoedd yn iach, yn wydn ac yn cael eu rheoli cystal â phosibl nawr ac yn y dyfodol. Mae ein coedwigoedd yn cynnig llawer o fanteision, megis ffynhonnell gynaliadwy o bren lleol; llefydd i bobl fwynhau cynefinoedd a thirweddau amrywiol; maent yn cefnogi bywyd gwyllt brodorol; yn hybu bioamrywiaeth ac yn rheoleiddio ansawdd a llif y dŵr.

Ar ben hynny, mae coedwigoedd yn amsugno ac yn cloi llawer o garbon ar ffurf pren cynaliadwy Cymreig o'r safon uchaf sy'n cyflenwi llawer o ddiwydiannau. Mae'r cynefinoedd rydyn ni'n eu rheoli ar yr ystâd eisoes yn storio tua 32.9 miliwn tunnell o garbon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o'r rôl hanfodol hon wrth i Gymru wynebu'r Argyfwng Hinsawdd.

 

Sut ydych chi'n rhoi cynllun coedwig at ei gilydd?
I unrhyw un sy'n ystyried ymgeisio, gallaf ddweud wrthych ei fod yn faes gwaith diddorol a gwerth chweil sy'n dod gydag amrywiaeth enfawr o waith. Fyddwch chi byth yn diflasu, a byddwch chi bob amser yn dysgu sgiliau newydd.

O'r dechrau i'r diwedd, gall gymryd hyd at naw mis i lunio cynllun at ei gilydd. Rwy'n dechrau gyda tomen o wybodaeth a pholisïau ac rwy'n gweithio gyda phob math o bobl y tu mewn a thu allan i CNC sydd â blaenoriaethau gwahanol ar gyfer coedwigoedd yr ydym yn eu rheoli. Mae'r gwaith hwn yn fy helpu i osod amcanion sydd wedyn yn sail i gynllun cynaliadwy.

Rwy'n cael defnyddio fy arbenigedd coedamaeth pan yn cerdded y goedwig o'r top i'r gwaelod a gweld sut a phryd y gallwn reoli pob rhan o'r goedwig i ffitio'r amcanion. Rhan werth chweil o'r swydd yw pan dw i’n tynnu holl waith at ei gilydd i greu cynllun rheoli newydd. Mae hefyd yn deimlad gwych pan fydd y cynllun gorffenedig yn cael llawer o adborth cadarnhaol.

Ar ddiwedd y broses, mae'n foddhaol iawn i gymryd cam yn ôl a gwerthfawrogi y bydd fy ngwaith o fudd i amgylchedd tirweddau cyfan. Rwy'n gwybod y bydd y goedwig yn datblygu gyda'r cymunedau y maen nhw'n tyfu o gwmpas ac yn cael effaith gadarnhaol ar adnoddau naturiol Cymru.

Pam CNC?
Ein pwrpas yw rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Mae rheoli Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru - 6% o holl dirfeddion Cymru - yn rhan hanfodol o hynny.
Mae'r rôl Cynlluniwr Adnoddau Coedwig yn rhan o dîm Pobl a Lleoedd Canolbarth Cymru. Canolbwynt y tîm yw sicrhau bod anghenion yr ardal a'r cymunedau yn cael eu diwallu mewn ffordd gydgysylltiedig. Maen nhw'n gweithio gyda chydweithwyr eraill i wneud yn siŵr fod popeth rydyn ni'n ei wneud yn defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.


Ceisio am y swydd
Ceisia am y swydd

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru