Swyddi Adnoddau Dynol yn CNC – galw am geisiadau

Mae gennym gyfleoedd cyffrous i chi ymuno â'n Tîm Adnoddau Dynol i roi cyngor ac arweiniad i reolwyr a’ch cydweithwyr ar draws ystod eang o wasanaethau o fewn y sefydliad.

Ydych chi’n berson chwilfrydig?

Ydych chi’n cael boddhad wrth ddarganfod y ffeithiau a’u gosod gyda’i gilydd i ffurfio darlun ehangach?

Ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd?

Os felly, darllenwch ymlaen…

Beth yw cefndir y swyddi?

Mae gennym gyfle i chi i ymuno â’n tîm gwaith achos a grëwyd yn ddiweddar, a chefnogi hyd at 5 gwahanol gyfarwyddiaeth a chanddynt faterion adnoddau dynol cymhleth. Fel Cynghorydd Gwaith Achos Adnoddau Dynol, yn hytrach na rhoi cyngor ‘cyffredinol’, bydd Uwch Arbenigwr Gwaith Achos y tîm yn neilltuo achosion i chi, a byddwch yn cynorthwyo rheolwyr ym mhob rhan o CNC o ran sut i reoli materion rheoli pobl yn llwyddiannus a’r problemau sy’n codi.

Mae gennym hefyd dri o gyfleoedd i chi ymuno â’n Tîm Adnoddau Dynol a gweithio ochr yn ochr â Phartner Busnes Adnoddau Dynol y Gyfarwyddiaeth gan roi cyngor ac arweiniad i reolwyr a chydweithwyr ar draws ystod eang o wasanaethau adnoddau dynol. Bydd gennych gyfle i gyfrannu at ddatblygu, gweithredu a rheoli amrywiaeth o bolisïau a mentrau adnoddau dynol.  Yn y rôl byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol o ddydd i ddydd, gan hyfforddi a chyfeirio rheolwyr a chydweithwyr.

Byddwch yn gweithio fel cynghorydd, gan sicrhau fod rheolwyr yn gwneud penderfyniadau deallus ac yn llwyr ddeall manteision, risgiau ac oblygiadau’r gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae’r rôl yn un amrywiol a heriol sy’n rhoi cyfle gwirioneddol ar gyfer datblygiad personol. 

Pa swyddi sydd ar gael?

Mae’r lleoliadau ar gyfer y pedair swydd yn hyblyg tra bod y cyflog rhwng £31,490 - £34,902 (Graddfa 5). Dyddiad cau ar gyfer yr holl swyddi yw 13 Tachwedd 2022.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Emma Coward ar Emma.Coward@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru