Chwe phrosiect a ariennir gan grant i helpu pobl yng Nghanolbarth Cymru i ailgysylltu â natur

Mae gwella iechyd, lles a gwydnwch ledled Cymru drwy gryfhau’r cysylltiad â byd natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i CNC, a lansiodd Raglen Grantiau Cymunedau Gwydn gwerth £2m yn gynharach eleni, gyda'r nod o ddarparu cyfleoedd i gymunedau adfer a gwella natur yn eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, a'r rheini heb fawr o fynediad at natur.

Denodd y rhaglen grant 220 o geisiadau a oedd yn chwilio am gyllid â chyfanswm gwerth o fwy nag £20 miliwn. Gwerthuswyd pob cais, a dewiswyd 21 o ymgeiswyr llwyddiannus.

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus yng Nghanolbarth Cymru roedd Tir Coed sy'n ceisio darparu gwell lles, sgiliau, cyfranogiad cymunedol, cysylltiad â natur ac ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd i bobl nad ydynt fel arfer yn ymwneud â natur yng Ngheredigion a Phowys.   Bydd y prosiect o'r enw AnTir  yn helpu'r sefydliad i ehangu’r rhan o’i ddarpariaeth sy'n seiliedig ar goetiroedd i gynnwys tyfu bwyd mewn modd sy'n llesol i natur, gwaith aildyfu fel adfer gwrychoedd, dolydd neu berllannau a sgiliau treftadaeth ehangach. 

Bydd yn gweithio gyda chymunedau, eu mannau gwyrdd, hybiau cymunedol a grwpiau cymdeithasol awyr agored i'w cefnogi i gyflawni eu cynlluniau a chynllunio prosiectau a mentrau a allai greu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli yn ogystal â chyfranogiad cymdeithasol.

Gyda Nes at Natur, nod Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yw dod â natur yn agosach at bobl sydd o dan anfantais oherwydd iechyd neu oedran drwy weithio gyda sefydliadau gwahanol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd yn Llandrindod a Rhaeadr. Elfen allweddol o'r prosiect yw datblygu dull ar gyfer mesur newid ymddygiadol a'r manteision y mae pobl yn eu cael o fynediad at natur, gan obeithio defnyddio’r dull mewn lleoliadau amrywiol. Yn rhan o raglen y prosiect mae 80 o sesiynau natur sy’n amrywio o deithiau cerdded bywyd gwyllt a garddio llesol i fywyd gwyllt i weithgareddau a gefnogir gan dechnoleg a fydd yn dod â natur dan do i bobl â chyfyngiadau symudedd difrifol.

Yn nhref farchnad Trefyclo, bydd y grŵp cymunedol lleol, Knighton Woodland Tots, yn atgyfnerthu rhaglen ei ysgol goedwig ac yn cyflwyno mwy o amrywiaeth yn yr arlwy i gynnwys ailgysylltu afonydd er mwyn hybu iechyd, lles, codi ymwybyddiaeth, a grymuso cymunedau. Mae Dathlu Afon Tefeidiad yn brosiect uchelgeisiol 12 mis ac amcangyfrifir fod ganddo gynulleidfa darged o 400 o gyfranogwyr. Bydd y prosiect yn sicrhau mynediad diogel a chreadigol i bawb i Afon Tefeidiad trwy annog a thynnu ar greadigrwydd, cof diwylliannol, hamdden, celfyddydau cymunedol, cyfranogiad mewn gwyddoniaeth dinasyddion ac ymarfer ataliol.

Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn uwchsgilio gweithwyr proffesiynol yr awyr agored ac ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ymgysylltu â phobl sydd â phroblemau gofal iechyd corfforol a meddyliol amrywiol dros bum rhaglen ymyrraeth sy’n para 10 wythnos ym Mhowys a Cheredigion. Bydd Agor Drysau i’r Awyr Agored yn mynd â grwpiau i leoliadau awyr agored mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn arwain ar hwyluso, hyrwyddo, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chasglu adborth y rhaglenni a hyfforddiant ychwanegol, gyda chefnogaeth gan y tîm ehangach a sefydliadau atgyfeirio i gyfeirio cyfranogwyr at y rhaglenni ymyrraeth. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu tuag at newid ymddygiad yn y tymor hir ymhlith cyfranogwyr y prosiect trwy leihau eu dibyniaeth ar wasanaethau gofal iechyd, gwella eu cysylltiad â natur, a lleihau eu hynysigrwydd cymdeithasol.

Yn ogystal â'r pedwar prosiect hyn, mae dwy fenter ehangach ar y gweill a’r gobaith yw y byddant o fudd uniongyrchol i bobl y Canolbarth:

Nod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw darparu mwy na 450 o deithiau cerdded hygyrch fel rhan o'r prosiect Cerdded er Budd Gorllewin Cymru. Gan ganolbwyntio ar Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, nod y prosiect hwn yw annog pobl sydd â bywydau eisteddog i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, dod yn fwy egnïol a gwella iechyd a lles. Ar ben hynny, mae'r prosiect hwn yn gobeithio hyfforddi 30 o wirfoddolwyr cymunedol i ddysgu sgiliau newydd fel arwain teithiau cerdded, gan fagu hyder a gwybodaeth.

Nod Coed Lleol yw hyrwyddo arloesedd a chyfranogiad mewn gweithgareddau iechyd a lles yn yr awyr agored trwy gefnogi rhwydwaith o arweinwyr. Bydd Cysylltu Coetiroedd a Phobl er Lles yn datblygu map o 'goetiroedd lles' a rhwydwaith o ddarparwyr gweithgareddau hyfforddedig, cysylltiedig a gynorthwyir. Bydd Coed Lleol yn darparu hyfforddiant ar-lein, sesiynau ymgysylltu a lles ac offer i gefnogi grwpiau i reoli presenoldeb a chynhyrchu tystiolaeth o effaith. 

Dywedodd Rachel Jarvis, uwch swyddog CNC ar gyfer Datganiad Ardal Canolbarth Cymru:

“Mae Ailgysylltu Pobl a Lleoedd yn thema allweddol ac yn flaenoriaeth o dan Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r prosiectau hyn a'r sefydliadau sy'n cyflawni newid cadarnhaol ar gyfer iechyd a lles pobl drwy ddefnyddio a gwerthfawrogi ein hasedau amgylcheddol lleol yn well.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru