Hau hadau cysylltiad cynnar â byd natur trwy'r cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy

Hau hadau cysylltiad cynnar â byd natur trwy'r cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy

Mae’r cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yn gynllun achredu cenedlaethol sy’n cydnabod lleoliadau cyn ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant. Mae'r cynllun yn ymdrin ag ystod o saith pwnc iechyd gan gynnwys yr amgylchedd naturiol. Sut mae'r cynllun yn helpu i ddatblygu cysylltiad cynnar â byd natur? Buom yn siarad ag Emma Coleman, Swyddog Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd i gael gwybod.

“Gan fabwysiadu dull lleoliad cyfan, rydym yn annog lleoliadau i ganolbwyntio ar un llyfryn pwnc iechyd ar y tro er budd plant, staff a theuluoedd y lleoliad,” eglurodd Emma. Mae'r holl lyfrynnau meini prawf cyn ysgol yn hyrwyddo cyfleoedd dysgu awyr agored, trwy annog dysgwyr i wneud y gorau o'r amgylchedd naturiol. Er enghraifft, wrth fynd allan a gwneud ymarfer corff a datblygu arferion bwyta'n iach trwy faeddu eu dwylo a thyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Rwy’n meddwl bod treulio amser yn yr amgylchedd naturiol yn cael effaith gadarnhaol ar les y plant ac yn rhoi cyfleoedd iddynt roi cynnig ar bethau newydd a gwella eu sgiliau datblygiad corfforol.”

“Rydym yn gweithio gyda 49 o leoliadau cyn ysgol ar draws Caerdydd sy’n cynnwys meithrinfeydd gofal dydd, Cylchoedd Meithrin, cylchoedd chwarae, lleoliadau Dechrau’n Deg a gwarchodwyr plant. Rydym yn gweithio'n bennaf gyda staff y lleoliad, gan ddangos arferion da, cyflwyno, neu drefnu hyfforddiant a chyfeirio at wybodaeth ac adnoddau. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth a’r arferion da yn cyrraedd teuluoedd y dysgwyr pan fydd y plant yn siarad am beth maent wedi bod yn ei wneud gartref. Rydym wedi creu taflen ‘30 diwrnod o weithgareddau’ i annog rhieni/gofalwyr i barhau â’r dysgu a gwneud y gorau o’u mannau gwyrdd lleol. Gellir cwblhau’r holl weithgareddau sydd wedi’u cynnwys yn hawdd, gydag adnoddau naturiol y gellir eu canfod yn rhwydd yn yr ardd neu tra byddant allan am dro.”

“Mae’r holl leoliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored ac rydyn ni’n eu cefnogi gyda syniadau gweithgareddau i’w defnyddio gyda’u plant. Mae gan lawer o leoliadau geginau mwd, ac rydym yn hyrwyddo syniadau i wella'r ddarpariaeth ceginau mwd, fel gadael i'w plant ddefnyddio'r perlysiau maent wedi'u tyfu yn y lleoliad wrth chwarae â mwd. Rydym yn annog lleoliadau i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt, drwy ofyn am roddion o sosbenni, offer cegin a photiau blodau ac ati gan rieni/gofalwyr. Dylid manteisio ar wrthrychau defnyddiol fel paledi ac rydym yn eu hannog i'w hailddefnyddio i gynyddu gwerth bioamrywiaeth eu tiroedd trwy greu gwestai chwilod. I gefnogi datblygiad staff, rydym wedi ariannu gweithdai tyfu ‘ffrwythau a llysiau’ i roi’r cyfle i staff ddatblygu eu gwybodaeth am blannu a thyfu, ac rydym hefyd yn cynnwys awgrymiadau a thriciau garddio, ynghyd â gwybodaeth am bryd i dyfu ffrwythau a llysiau penodol yn ein cylchlythyr misol. Rydym yn annog lleoliadau i gofleidio'r awyr agored trwy awgrymu gweithgareddau y gellir eu haddasu'n hawdd i'w gofod awyr agored, sy'n cysylltu â gweithgareddau corfforol ac sy'n cysylltu'n dda â llyfrau stori.

“Rydym yn cydnabod arferion gorau lleoliadau trwy ddyfarnu tystysgrifau pan fyddant yn cyflawni un o saith pwnc y cynllun ac yn rhannu eu cyflawniadau ar e-fwletinau ac ar Twitter. Rydym yn cynnal digwyddiad dathlu er mwyn i leoliadau gael eu tystysgrifau wedi'u cyflwyno iddynt. Rydym yn gobeithio, trwy gydweithio a chefnogi lleoliadau, y bydd ymddygiadau o blaid yr amgylchedd yn cael eu sefydlu gan ddysgwyr yn eu bywyd cynnar, gan sicrhau eu bod yn datblygu gwybodaeth am fyd natur, yn ei ddeall ac yn parhau i ryngweithio ag ef.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru