Treuliwch amser yn yr awyr agored a byddwch yn sioncach eich cam

Steven Meaden, ein cynghorydd iechyd arbenigol arweiniol, sy’n esbonio pam mae dyfodiad y gwanwyn yn dda i'n hiechyd a'n lles.

Wrth i ni gamu i mewn i'r gwanwyn ar 20 Mawrth, mae nifer ohonom yn edrych ymlaen at y dyddiau hirach, goleuach a mwynach a mwynhau mwy o amser y tu allan.

Mae'r dyddiau goleuach yn newyddion gwych i'n hiechyd a'n lles corfforol a meddyliol. Mae cael mwy o olau dydd yn rhoi hwb o fitamin D i ni ac yn achosi i'n hymennydd gynhyrchu mwy o'r serotonin cemegol sy'n gwella hwyliau, sy'n gwneud i ni deimlo'n hapusach!

Mae golau haul ychwanegol hefyd yn ein helpu i gael noson dda o gwsg. Ond os ydych chi'n gwybod bod troi’r clociau ymlaen yn tueddu i darfu ar eich cwsg, mae'r Sleep Charity yn cynghori symud eich amser gwely yn gynt o ryw 10 munud yn y dyddiau sy'n agosáu ato. 1

Mae'r tywydd cynhesach yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn fwy pleserus hefyd. Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yn y Journal of Environmental Science and Technology, mae ymarfer corff yn yr awyr agored yn gwneud mwy i'n hiechyd a'n lles meddyliol na sesiwn chwyslyd dan do.2

5 ffordd i roi glanhad llwyr i’ch iechyd

Os oes angen dos o ysbrydoliaeth arnoch i symud y tu allan y gwanwyn hwn, dyma rai ffyrdd y gallwch roi hwb i'ch iechyd a'ch lles.

1. Trefnwch daith gerdded reolaidd gyda'r nos

Mae gwneud y gorau o'r nosweithiau goleuach trwy fynd am dro gyda'r nos yn gyfle gwych i ryngweithio â phobl eraill. Gall cysylltiadau cymdeithasol ddylanwadu’n gadarnhaol ar ein hiechyd felly, mae nawr yn amser da i roi amser rheolaidd yn y dyddiadur ar gyfer mynd am dro gyda’r nos gyda ffrind.3 

Os ydych eisiau gwneud eich teithiau cerdded yn fwy cymdeithasol a chwrdd â phobl newydd, gallech ymuno â grŵp cerdded lleol. Mae gan yr elusen gerdded, Ramblers, fwy na 500 o grwpiau crwydro yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Dewch o hyd i grŵp neu daith gerdded ar wefan Ramblers.

2. Archwiliwch o'ch drws ffrynt

Gallwn ddatgloi llawn botensial lle rydych chi'n byw trwy wneud y gorau o'ch parc lleol, dod o hyd i barc newydd i ymweld ag ef neu grwydro llwybrau troed trwy fannau gwyrdd. Yn ogystal â bod yn ffyrdd rhad ac am ddim neu gost isel o fwynhau'r awyr agored, mae treulio amser o amgylch byd natur yn ffordd brofedig o leihau straen a phryder, teimlo wedi ymlacio a gwella'ch hwyliau.

Os nad ydych yn siŵr ble i fynd, gallwch ddod o hyd i barc ar wefan GOV.UK neu wefan eich cyngor lleol. Am lwybrau ag arwyddbyst trwy goetir a gwarchodfeydd, ewch i’n tudalennau gwe Ar Grwydr.

3. Ail-ddarganfyddwch lawenydd potsian o gwmpas yn yr ardd

Mae ymchwil yn dangos bod gofalu am ardd yn dda i'n hiechyd a gall gael effaith hudolus bron ar dreigl amser.4

Gall hyd yn oed cwblhau tasgau syml nad oes angen llawer o ymdrech wneud i ni deimlo'n gynhyrchiol ac mewn rheolaeth, fel llenwi peiriant bwydo adar, chwynnu a dyfrio planhigion mewn potiau. Ac mae’n ffordd wych o dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a chysylltu â byd natur.

4. Piciwch am bicnic

Mae tywydd mwyn y gwanwyn yn rhoi mwy o gyfle i ni fwyta yn yr awyr agored a mwynhau golygfeydd gwych. Gallech bacio blanced a mynd i’r parc, eistedd ymhlith y coed mewn coedwig neu fynd i’r traeth am wledd gyda ffrindiau a theulu.

Os ydych chi'n cynnwys ffrwythau a llysiau tymhorol, byddwch chi'n helpu'ch perfedd ac yn gwella'ch system imiwnedd hefyd. Ymhlith ffefrynnau'r gwanwyn mae radis, berwr y dŵr, asbaragws, sbigoglys, brocoli blagur porffor a riwbob.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â’ch sbwriel a’ch bwyd dros ben gyda chi ar ôl i chi orffen eich picnic.

5. Cysylltwch â natur

Mae popeth yn dechrau edrych yn fwy prydferth yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae coed yn dechrau tyfu dail, blodau'r gwanwyn yn blaguro a chân yr adar yn llenwi'r awyr. Mae'r amrywiaeth hyfryd o olau a lliw yn wledd i'r llygad a gall ysbrydoli ein creadigrwydd.

Trwy dreulio amser yn sylwi ar harddwch y tymor ac yn ei werthfawrogi, rydym ni a’r amgylchedd yn elwa. Rydym nid yn unig yn teimlo’n well yn gorfforol ac yn feddyliol yn yr awyr agored, ond pan fyddwn yn gwerthfawrogi byd natur, rydym yn fwy tebygol o wneud dewisiadau sy’n ei ddiogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Mae ein model Camau Cynnydd yn dangos sut y gall bod yn yr amgylchedd naturiol, a chysylltu ag ef, ddylanwadu ar ymddygiadau cadarnhaol a fydd yn ein hannog i ofalu am ein byd.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar ble i fwynhau byd natur y gwanwyn hwn, cymerwch olwg ar ein teithiau cerdded ar gyfer y gwanwyn a’n tudalennau gwe Ar Grwydr.

 

Cyfeiriadau

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru