Rhaid i Gymru newid gêr i addasu i’r perygl cynyddol o lifogydd.

Dair blynedd ers llifogydd mis Chwefror 2020, mae Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, yn tanlinellu sut y mae’n rhaid i Gymru newid trywydd nawr er mwyn addasu i’r perygl cynyddol o lifogydd yn y dyfodol.

Mae gwyddonwyr hinsawdd wedi rhagweld ers tro y byddai ein heffaith ar y byd yn achosi mwy o lifogydd, tywydd poeth, stormydd a mathau eraill o dywydd eithafol.

Ond mae’r ymchwydd diweddar mewn digwyddiadau tywydd sy’n torri recordiau - boed hynny ar lefel fyd-eang neu’n agosach at adref - yn fwy na hyd yn oed y rhagfynegiadau mwyaf sobreiddiol o ran newid hinsawdd.

Mae’r tudalennau blaen a gyhoeddwyd yn sgil amryw o adroddiadau gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn syfrdanol – maen nhw’n ‘god coch i’r ddynoliaeth’ ac yn pwysleisio sut mae gweithgaredd dynol yn newid hinsawdd ein planed mewn ffyrdd “digynsail”, gyda rhai newidiadau bellach yn anochel ac yn “ddi-droi’n-ôl”.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r byd wedi newid yn sylweddol. Mae’r argyfwng costau byw a rhyfel yn Ewrop yn golygu nad yw’r hinsawdd, bellach, ar flaen y tudalennau fel yr oedd yn y cyfnod ar drothwy cynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn ninas Glasgow yn 2021.

Ac eto, yn erbyn cefndir un o gyfnodau mwyaf heriol ein cyfnod ni, rydyn ni’n parhau i gael ein hatgoffa am frys y dasg hinsawdd sydd o’n blaenau.

Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth tair storm ag enw daro’r Deyrnas Unedig mewn cyfnod o wythnos. Yn fuan wedi hynny, aeth y genedl i mewn i gyfnod estynedig o dywydd sych a thymheredd uchel dros y gwanwyn a’r haf, gan sbarduno tanau gwyllt ledled y wlad ac arwain at ddatgan y sychder ‘swyddogol’ cyntaf yng Nghymru ers 2005-2006.

Mae hi bellach yn dair blynedd ers stormydd mis Chwefror 2020, lle profodd Cymru fwy o law na’r arfer a llifogydd yn sgil Stormydd Ciara, Dennis a Jorge.

Profodd pobl effeithiau ysgubol rhai o’r llifogydd mwyaf a welwyd yng Nghymru ers 1979.

Gwelsom bryd hynny, ac rydym wedi gweld ers hynny, faint o boen y gall lefelau dŵr cynyddol achosi i bobl, eu cartrefi a’u busnesau, a sut y gall y gofid a’r costau bara ymhell ar ôl i’r dŵr gilio.

A byddwn yn gweld mwy o ddigwyddiadau sy’n torri recordiau. O ddigwyddiadau tywydd ar raddfa fawr i achosion o law trwm mwy dwys a lleol sy’n llethu systemau draenio - gall yr effeithiau fod yn sylweddol ac yn hirhoedlog.

Sut mae CNC yn gwneud gwahaniaeth

Un o brif rolau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw lleihau a rheoli perygl llifogydd o’r prif afonydd a’r arfordir yng Nghymru. Rydyn ni’n gwneud hynny trwy wella ymwybyddiaeth a mynediad at wybodaeth am berygl llifogydd, cynghori ar benderfyniadau cynllunio, a thrwy adeiladu a chynnal a chadw amddiffynfeydd llifogydd. Rydyn ni hefyd yn rhybuddio ac yn hysbysu pan fydd bygythiad o lifogydd, gan ddefnyddio ein timau ar lawr gwlad i weithio gyda phartneriaid i liniaru effeithiau llifogydd mewn cymunedau.

Yn dawel bach mae ein hamddiffynfeydd yn diogelu cannoedd ar filoedd o bobl mewn 73,000 eiddo ledled Cymru bob awr o’r dydd a’r nos. Mae buddsoddiadau a wnaed i’r darnau hanfodol hyn o isadeiledd ers y llifogydd mawr blaenorol wedi gwella ein gwytnwch yn sylweddol, sy’n golygu bod miloedd yn fwy o eiddo bellach dan lai o risg o lifogydd.

Yn ystod Storm Dennis, roedden nhw’n effeithiol wrth ddiogelu tua 19,000 eiddo. Fe wnaeth ein cynllun rheoli llifogydd yn Llanelwy, a adeiladwyd i amddiffyn 293 o gartrefi a 121 o fusnesau yn y ddinas atal ailadrodd y llifogydd dinistriol a gafwyd yn 2012.

Ond yn union fel y mae newid hinsawdd a’r perygl o lifogydd yn gynyddol ac yn llawn ansicrwydd, mae sut rydyn ni’n buddsoddi mewn opsiynau amddiffyn a’u rheoli hefyd yn gofyn am ymatebion hyblyg, gan dderbyn na allwn adeiladu ein ffordd allan o’r peryglon sy’n ein hwynebu.

Ein gwaith i leihau’r risg o lifogydd

O’i chymoedd serth i arfordiroedd agored, mae tirwedd amrywiol Cymru yn creu heriau sylweddol wrth geisio rheoli canlyniadau glaw trwm.

Wrth ystyried sut i amddiffyn ardaloedd sydd dan y mwyaf o risg, bydd CNC bob amser yn gweithio gyda chymunedau lleol i nodi’r cyfuniad gorau o fesurau sy’n mynd i’r afael â’r bygythiadau penodol.

Cymerwch Fairbourne yng Ngwynedd fel enghraifft.

Mae amddiffyn y pentref arfordirol isel hwn rhag llifogydd posibl o’r llanw o aber afon Mawddach a llifogydd o’r afon yn her gynyddol. Rydyn ni’n gweithio yn erbyn byd natur i geisio lleihau’r peryglon ar adeg pan fo’r hinsawdd yn newid a lefelau’r môr yn codi.

Cafodd cynllun amddiffynfa gwerth £6.8 miliwn gan CNC ar yr aber ei gwblhau yn 2015 ac mae’n helpu i leihau’r perygl i dros 400 eiddo yn yr ardal.

Tra bo cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael, a thra bo’n gynaliadwy i wneud, byddwn yn parhau i fonitro a chynnal a chadw amddiffynfeydd llifogydd ac i weithio gyda’r gymuned a chyda’n partneriaid i reoli’r risg yn yr ardal hon. Ond fe ddaw amser yn y dyfodol pan na fydd yn gynaliadwy bellach. Ni allwn anwybyddu’r mater hwn a fydd yn effeithio ar gymunedau cyfan. Mae angen inni gynllunio ar gyfer y newid hwnnw nawr.

Nid perygl wedi’i gyfyngu i Fairbourne yn unig yw hwn. Mae ein harfordir yn wynebu dyfodol anodd a bydd rhai ardaloedd yn dod yn agored iawn i gynnydd yn lefel y môr a newid hinsawdd. Mae’n sgwrs anodd ei chael gyda chymunedau pan allai’r perygl fod sawl degawd neu genhedlaeth i ffwrdd, ond mae’n bwysig ein bod ni’n ystyried cenedlaethau’r dyfodol yn ein cynllunio.

Ymhellach i’r de, mae ein hardaloedd trefol hefyd yn wynebu eu heriau eu hunain.

Mae gan ardal Crindai yng Nghasnewydd hanes hir o lifogydd. Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, cwblhawyd ein cynllun gwerth £14 miliwn, sef Cynllun Rheoli Llifogydd Crindai, ym mis Chwefror ac fe’i cynlluniwyd gyda newid hinsawdd a’r cynnydd rhagweledig yn lefel y môr mewn golwg. Mae modd addasu’r cynllun yn ôl yr angen yn y dyfodol, ac mae’n cynnwys buddion cymunedol fel llwybrau troed newydd, llwybrau beicio a mannau eistedd.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn gwneud gwaith modelu manwl o berygl llifogydd yn nalgylch Taf Isaf, ac afon Cynon a’r ddwy afon Rhondda, i gefnogi’r cam nesaf o waith i ddatblygu cynllun meistr strategol ar reoli perygl llifogydd ar gyfer dalgylch afon Taf. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â phob awdurdod sy’n rheoli’r perygl o lifogydd yn yr ardal hon.

Ond mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i wybod ein perygl llifogydd ein hunain ac i gymryd cyfrifoldeb personol i amddiffyn ein hunain a’n heiddo cyn i’r glaw ddechrau disgyn.

Mae datblygiadau yn yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar ein gwefan yn golygu bod pobl bellach yn gallu adnabod eu perygl llifogydd eu hunain drwy fewnosod cod post. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, sut i gofrestru ar gyfer system rhybuddion llifogydd am ddim CNC a chamau i’w cymryd i ddatblygu cynllun.

Dewisiadau anodd o’n blaenau

Fodd bynnag, yn anffodus, mae’n aml yn cymryd digwyddiadau mawr i’n gorfodi i ystyried pa mor barod ydyn ni, mewn gwirionedd, ar gyfer mwy o dywydd eithafol.

Ym mis Hydref 2020, fe wnaethon ni gyhoeddi ein hadolygiadau o lifogydd mis Chwefror 2020, lle roeddem yn galw am newid mawr o ran sut mae Cymru’n ymateb i heriau’r hinsawdd a mwy o berygl o lifogydd.

Fe wnaethon ni bwysleisio bod angen cael sgyrsiau anodd, a bod rhaid gwneud penderfyniadau cymhleth. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i wneud yr hyn a allwn i symud y broses hanfodol hon yn ei blaen.

Mae’n rhaid inni dderbyn na fyddwn ni fyth yn ennill y rhyfel yn erbyn grymoedd natur. Ond mae’n rhaid hefyd gael ystyriaeth sylfaenol gan lywodraethau, awdurdodau cynllunio ac awdurdodau perygl llifogydd, ynghyd â chymunedau, o’r dewisiadau plaen iawn sydd o’n blaenau ar sut mae’r risgiau’n cael eu rheoli a’u darparu o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Bydd amddiffynfeydd llifogydd bob amser wrth wraidd rheoli risg y genedl, a byddwn ni yn CNC yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl, technoleg, isadeiledd, systemau a phrosesau i ymgymryd â’n dyletswyddau gyda pherygl llifogydd. Ond ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.

Wrth i fwy a mwy o gymunedau bob blwyddyn gyfrif cost eiddo coll, cartrefi wedi’u sarnu, a busnesau wedi’u distrywio yn dilyn llifogydd, ac wrth i bobl fyw gydag ofnau am stormydd yn y dyfodol, rydyn ni’n gwybod bod angen gwneud cymaint mwy i baratoi i wynebu ein realiti yn y dyfodol.

Mae angen i awdurdodau cynllunio wneud penderfyniadau anodd ac osgoi’r math anghywir o ddatblygiad mewn ardaloedd lle mae perygl uchel o lifogydd.

Mae angen i’r sector tai a’r datblygwyr hefyd adeiladu cartrefi a busnesau mwy gwydn, felly pan fydd llifogydd a newid arfordirol yn digwydd, mae’n achosi llai o niwed i bobl ac eiddo a gall bywyd ddychwelyd i normalrwydd yn gynt.

Mae angen bod yn fwy arloesol ac edrych ar ddulliau newydd o weithio’n fwy effeithiol gyda pherchnogion tir, eu cymell i ddarparu datrysiadau sy’n seiliedig ar natur sy’n cynnig amrywiaeth o fanteision i leihau’r perygl o lifogydd, ac edrych i fyny’r afon i wneud lle ar gyfer y symiau enfawr o ddŵr rydyn ni’n ei weld yn ystod llifogydd.

Gall y rhain fod yn faterion anodd, drud. Ac rydyn ni’n gwybod bod gwytnwch yn anoddach i’w werthu nag amddiffyniad.

Ond mae angen inni dderbyn na allwn stopio’r glaw ac y bydd mwy ohono!

Mae effaith newid hinsawdd yn rhywbeth i bob un ohonom fynd i’r afael ag ef gyda’n gilydd, ac mae’n fater y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef ar unwaith.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru