Cais i newid trwydded cyfleuster gwastraff pren yn y Barri wedi ei dynnu yn ôl

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ystyried bod cais gan gwmni yn y Barri i newid ei drwydded amgylcheddol wedi ei dynnu'n ôl ar ôl i'r ymgeisydd fethu â chwrdd â therfyn amser i ddarparu rhagor o wybodaeth.

Mae gan JM Envirofuels (Barry) Ltd ar Wimborne Road, Doc y Barri, drwydded ar hyn o bryd sy'n caniatáu iddi drin a storio gwastraff pren, a ddefnyddir wedyn fel tanwydd mewn cyfleusterau ynni o wastraff.

Gwnaeth y cwmni gais i CNC yn 2019 i gynyddu faint o bren y gallai drin a storio, yn ogystal â chynnig i drin mathau eraill o wastraff nad yw'n beryglus o gartrefi, busnesau, a diwydiannau – gan gynnwys metal, gwydr a phlastrfwrdd.

Roedd y cwmni hefyd wedi gwneud cais i dderbyn a storio lludw a gynhyrchir gan gyfleusterau ynni o wwastraff, fel cyfleuster Biomas y Barri.

Yn dilyn ei hasesiad technegol o'r cais ac ystyriaeth o'r ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddechrau'r flwyddyn, anfonodd CNC hysbysiad i JM Envirofuels (Barry) Ltd ym mis Ebrill i ofyn am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â sawl agwedd o’i  gynlluniau arfaethedig.

Yn dilyn cais gan yr ymgeisydd, cytunodd CNC i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r wybodaeth ychwanegol hyd at 17 Gorffennaf, gan roi bron i dri mis i'r ymgeisydd gwblhau'r cais.

Ni ddarpariwyd y wybodaeth gan yr ymgeisydd erbyn y dyddiad cau ac o ganlyniad mae CNC wedi barnu bod y cais wedi cael ei dynnu'n ôl.

Dywedodd Caroline Drayton, rheolwr gweithrediadau ar gyfer CNC:

"Rydym yn sicrhau bod pob cais a dderbyniwn yn cael ei asesu'n drylwyr er mwyn gwarchod cymunedau cyfagos a'r amgylchedd.
"Roedd cynllun y cwmni'n wahanol iawn i'r hyn y mae ganddo drwydded i’w wneud ar hyn o bryd. Yn dilyn ein hasesiad o'r cais a'r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad, roedd yn amlwg bod angen rhagor o fanylion i ddangos sut y byddai'r gweithgareddau'n  cydymffurfio â'r rheoliadau.
"Roedd y cyngor a gawsom gan sefydliadau arbenigol ynghyd â'r wybodaeth a gawsom gan bobl leol drwy ein hymgynghoriad yn hynod o werthfawr i ni. Diolchwn i'r bobl a gymerodd yr amser i gymryd rhan."

Mae gan JM Envirofuels (Barry) Ltd yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad CNC drwy Weinidogion Cymru, a rhaid ei wneud erbyn 13 Awst 2020.

Mae’r holl ddogfennau a gyflwynwyd i gefnogi'r cais, gan gynnwys copi o'r holl hysbysiadau ac ymatebion, ar gael ar gofrestr gyhoeddus ar-lein CNC.