Dyfroedd ymdrochi’n cydymffurfio 100% am y bedwaredd flwyddyn yn olynol

Mae dyfroedd ymdrochi ledled Cymru’n cydymffurfio eto am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn dilyn cwblhau tymor ymdrochi eleni.

Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Dŵr Cymru Welsh Water, ymwelodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â phob un o’r 105 o safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig a chasglu a dadansoddi samplau ansawdd dŵr drwy gydol y tymor.

Yn ôl canlyniadau eleni, dosbarthwyd 85 o ddyfroedd ymdrochi’n ‘Rhagorol’, 14 yn ‘Dda’ a 6 yn ‘Ddigonol’, gan gynnwys gwelliannau o ran dosbarthiad ar gyfer wyth safle, yn cynnwys Cemaes, Bae Cinmel a Nolton Haven.

Er bod pob un o safleoedd dynodedig Cymru’n cydymffurfio, yn anffodus, mae chwech ohonynt wedi syrthio o ddosbarthiad ‘Rhagorol’ i ddosbarthiad ‘Da’, gan gynnwys Dinbych-y-Pysgod: Gogledd, Harbwr Cei Newydd, Llanddona ac Aberystwyth: Gogledd.

Meddai Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae monitro a chynnal ein hadnoddau naturiol yn gonglfaen i’r gwaith rydym yn ei wneud ac rwy’n hynod falch o’n staff am lwyddo i gwblhau tymor dŵr ymdrochi llwyddiannus arall er gwaethaf heriau digynsail pandemig y coronafeirws.
“Mae cyrraedd lefel gydymffurfio o 100% eto eleni’n dangos pa mor galed rydym ni a’n partneriaid yn gweithio yn lleol ac ar lefel genedlaethol i gadw dyfroedd ymdrochi Cymru mor lân ag y gallwn ni.
“Er y gallwn ni ddathlu’r canlyniadau cadarnhaol, mae gwaith i’w wneud o hyd ac rydym yn edrych ymlaen i weld Cymru’n parhau i weithio fel tîm i warchod a gwella ein traethau a’r buddion maen nhw’n eu rhoi i ni.”