Cynhadledd i ddatblygu canolfannau rhagoriaeth yng Nghymru ar gyfer adfer mwyngloddiau metel a glo

Bydd MineXchange – cynhadledd deuddyd a chynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth – yn edrych i ddatblygu canolfannau rhagoriaeth yng Nghymru ar gyfer adfer mwyngloddiau metel a glo.

Bydd y cynhadledd yn parhau i hwyluso cysylltiadau rhwng y byd academaidd a diwydiant, ac i gefnogi arloesedd drwy rannu gwybodaeth a phrofiad. Bydd hefyd yn edrych ar gyfleoedd i fasnacheiddio amgylcheddau mwynglawdd sydd wedi'u difrodi.

Bydd diwrnod cyntaf y gynhadledd – sy'n cael ei threfnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r Awdurdod Glo fel partner - yn cael ei gynnal yn Ystafell Medrus yn y brifysgol ar 12 Medi 2022.

Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ac astudiaethau achos a ddarperir gan arbenigwyr yn y maes o ddiwydiant, y sector cyhoeddus a'r byd academaidd.

Bydd ail ddiwrnod y gynhadledd ar 13 Medi yn cynnwys taith o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo i Gwm Rheidol ac Ystumtuen i weld y gwaith adfer cloddfa metel diweddaraf. Darperir cludiant, ond does dim rhaid i bobl fynychu’r daith.

Dywedodd Peter Stanley, Uwch-gynghorydd Mwyngloddiau wedi eu Gadael Cyfoeth Naturiol Cymru :

"Mae cynhadledd MineXchange yn gyfle na all pobl sy'n gweithio yn y maes adfer mwyngloddiau metel a glo fforddio ei fethu.
"Byddwn ni'n edrych ar sut y gall adfer mwyngloddiau fod yn fwy na chyfyngu ar niwed amgylcheddol, ond rhywbeth sy'n gallu hybu a chefnogi cymunedau lleol. Bydd mynychwyr y gynhadledd hefyd yn dysgu am ymchwil blaengar wrth adfer mwyngloddiau.”

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac yn hanfodol er mwyn gallu mynychu. Mae angen i fynychwyr e-bostio geoscience@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a dychwelyd ffurflen gofrestru syml i sicrhau eu lle. Gellir trefnu llety yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Aberystwyth trwy e-bostio https://bookaccommodation.aber.ac.uk/