Ymgynghori ar newid i drwydded safle tirlenwi Bryn Posteg

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl yn ardal Llanidloes i ddweud eu dweud ar y newidiadau arfaethedig i drwydded amgylcheddol safle tirlenwi Bryn Posteg.

Ar ôl edrych yn ofalus ar y dystiolaeth, mae CNC wedi drafftio newidiadau i'r drwydded amgylcheddol bresennol.

O’r blaen, roedd 333,302 metr ciwbig o wastraff wedi'i waredu uwchlaw'r swm a ganiateir.

Byddai’r newid i’r drwydded yn caniatáu i'r gwastraff hwnnw aros ar y safle, ac i 116,657 o fetrau ciwbig o wastraff ychwanegol gael ei waredu.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, mae CNC yn rhoi cyfle i bobl roi sylwadau ar y cynnig.

Bydd pobl yn gallu cyflwyno gwybodaeth newydd nad yw eisoes wedi'i hystyried drwy ymgynghoriadau blaenorol.

Dywedodd Holly Noble, Arweinydd Tîm Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gosodiadau a Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol:

"Rydyn ni’n gwybod bod datblygiadau ym Mryn Posteg yn bwysig i lawer o bobl yn ardal Llanidloes.
“Ni fyddwn ni’n caniatáu amrywiad i drwydded oni bai ein bod ni’n credu na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi.
“Bydd unrhyw drwydded a gaiff ei rhoi gennym yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.”

Roedd sesiwn galw heibio i hysbysu pobl am y newidiadau arfaethedig wedi cael ei drefnu i fod yn ystod y cyfnod ymgynghori ond bu'n rhaid ei ganslo oherwydd cyngor iechyd cyhoeddus ynghylch y sefyllfa COVID-19.

Bydd opsiwn arall yn cael ei drefnu yn lle sesiwn galw heibio mewn person i alluogi pobl i drafod y newidiadau arfaethedig gyda swyddogion trwyddedu. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ddarparu pan ei fod ar gael.

Mae'r ymgynghoriad yn ymdrin â'r newidiadau arfaethedig i'r drwydded amgylcheddol ar gyfer y safle. Cyngor Sir Powys sy'n ymdrin â materion cynllunio fel effaith y safle ar ffyrdd lleol.

Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan CNC. Mae copi caled ar gael drwy wneud cais drwy’r cyfeiriad e-bost neu'r cyfeiriad post isod.

Mae angen derbyn pob sylw yn ysgrifenedig erbyn 24 Ebrill 2020 i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk neu:

Arweinydd Tîm Trwyddedu – Gosodiadau ac RSR, Gwasanaeth Trwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.