Lansio ymgynghoriad ar gais am drwydded ar gyfer Cyfleuster Crynhoi Gogledd Powys

Lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymgynghoriad chwe wythnos heddiw (20 Mai 2021) ar gais am drwydded amgylcheddol ar gyfer Cyfleuster Crynhoi Gogledd Powys.

Ymatebwch i'r ymgynghoriad.

Mae CNC yn edrych am adborth ar y cais am drwydded fel iddo gael ei gyflwyno, cyn iddynt gynnal asesiad technegol llawn. Maent yn ceisio adborth yn benodol ar y cais am drwydded amgylcheddol ac ni allant ystyried materion sy'n ymwneud â'r system gynllunio, megis lefelau traffig yn Aber-miwl.

Bydd digwyddiad ymgysylltu rhithiol hefyd yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses ymgynghori a fydd yn rhoi cyfle i breswylwyr ofyn cwestiynau am y cais a'r broses asesu.

Bydd y digwyddiad ymgysylltu rhithiol yn cael ei gynnal ar 3 Mehefin rhwng 1pm a 7pm. Gall aelodau o'r cyhoedd archebu slot 20 munud i ofyn cwestiynau a thrafod y cais gydag aelod o Dîm Trwyddedu CNC ac aelod o Dîm yr Amgylchedd lleol.

Gellir archebu slotiau drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 31 Mai 2021. Bydd y galwadau'n digwydd dros Microsoft Teams, sy'n caniatáu galwadau fideo a rhannu sgrin yn fyw. Gellir ddefnyddio galwadau Microsoft Teams hefyd dros ffôn arferol os oes angen.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC yng Nghanolbarth Cymru:

"Rydym yn gwybod bod gan bobl farn gref ar y datblygiad arfaethedig a'u bod am ddweud eu dweud arno. Oherwydd hyn y bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am chwe wythnos yn hytrach na'r pedair wythnos safonol.
"Bydd yr adborth perthnasol o'r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio ein hasesiad technegol llawn o'r cais am drwydded. Byddwn wedyn yn dod i benderfyniad drafft ac yn gofyn am farn ar hynny cyn gwneud ein penderfyniad terfynol."

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am chwe wythnos a bydd yn dod i ben ar 1 Gorffennaf 2021. Mae'n cael ei gynnal yn bennaf ar ganolfan ymgynghori ar-lein CNC. Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael mewn gwahanol fformatau ar gais.

Mae'r ffurflen ymateb i'r cais a'r ymgynghoriad ar gael ar ganolfan ymgynghori CNC ar: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/permitting-caniatau/cyfleuster-crynhoi-gogledd-powys-pan-013001