Grwpiau amgylcheddol ar eu helw ar ôl digwyddiad llygredd

Bydd grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol yn elwa o gamau cydweithredol a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Bwydydd Castell Howell yn dilyn digwyddiad llygredd a achoswyd gan fethiant mewn gorsaf bwmpio yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd prosiectau a gynhelir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, partneriaeth Mawndiroedd SoDdGA Llyn Llech Owain, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn elwa o arian a delir gan Castell Howell Foods Ltd, ac a hwylusir gan CNC.

Talodd y cwmni'r arian fel rhan o iawndal am ddigwyddiad llygredd ym mis Gorffennaf, 2019. Yn dilyn ymchwiliad, ac o ystyried ymateb cyflym, gwaith adfer, ac edifeirwch Castell Howell, nododd CNC fod y digwyddiad yn addas ar gyfer Cosb Sifil - sef ymgymeriad gorfodi.

Yn y digwyddiad, llifodd elifion i mewn i Afon Gwili ger Cross Hands, oherwydd methiant mecanyddol mewn gorsaf pwmpio carthion a fabwysiadwyd gan Gastell Howell ar ôl iddo brynu tir cyfagos. Gwaethygwyd y digwyddiad, a arweiniodd at farwolaeth pysgod sy'n gynhenid i'r afon, gan lif isel yr afon yn sgil tywydd poeth, sych.

Pan gysylltodd CNC â’r cwmni adeg y digwyddiad, cadarnhaodd Castell Howell ei fod wedi rhyddhau elifion drwy'r bibell orlifo yn ddiarwybod iddo oherwydd methiant yn offer telemetreg yr orsaf bwmpio. Cymerodd y cwmni gamau ar unwaith drwy newid i bympiau â llaw ac wedyn atal y gorlif brys.

Y mis canlynol (Awst 2019), gosododd y cwmni system delemetreg a phwmp newydd. Rhoddwyd archwiliadau dyddiol ac amserlen cynnal a chadw well ar waith, a chynhaliwyd arolwg llawn o’r system teledu cylch cyfyng yn y broses ddraenio.

Meddai Jane Chapman, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer CNC:

"Ein rôl ni yw sicrhau y gall busnesau weithredu heb niweidio pobl a'r amgylchedd. Gall hyn gynnwys erlyn, ond mewn rhai achosion gall ystyried opsiynau ar wahân i achos llys fod o fudd i’r cyhoedd.
“Mae’r cwmni wedi treulio cryn dipyn o amser yn myfyrio ar y digwyddiad hwn, ac mae’n amlwg ei fod yn cymryd yr effeithiau a’r canlyniadau o ddifrif.
“Bydd y gymuned yn elwa o’r ymgymeriad gorfodi drwy gymorth ariannol a gwirfoddol ar gyfer prosiectau lleol a ariennir gan y cwmni.
“Mae’r dull hwn yn enghraifft o CNC yn cyflawni ei rôl allweddol er lles y gymuned ehangach.”

Meddai Edward Morgan, Rheolwr Hyfforddiant a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y Grŵp ar gyfer Castell Howell:

“Fel cwmni sy’n cymryd materion amgylcheddol a’n lleoliad yng nghefn gwlad o ddifrif, achosodd digwyddiad Afon Gwili ofid a phryder mawr i ni.
"Rydym felly'n croesawu barn CNC bod ein camau adfer uniongyrchol a’n gwaith i osod offer a phrotocolau newydd yn gyflym yn gwneud y digwyddiad yn addas ar gyfer ymgymeriad gorfodi.
"Rydym hefyd yn falch iawn y bydd yr arian a delir fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw yn mynd i sefydliadau a phrosiectau sy'n gweithio i ddiogelu a gwella bywyd gwyllt a chefn gwlad Cymru."

Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau llygredd i Ganolfan Cyfathrebu Digwyddiadau CNC drwy ffonio 0300 065 3000, e-bostio ICC@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy glicio ‘rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol’ ar hafan gwefan CNC.