Paratoadau terfynol ar y gweill ar gyfer ailagor Ffordd Goedwig Cwm Carn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau fod y gwaith i roi wyneb newydd ar Ffordd Goedwig Cwm Carn yn mynd rhagddo, wrth iddo agosáu at gau pen y mwdwl ar y gwaith ailddatblygu.

Mae’r dasg olaf hon yn dilyn misoedd o waith i greu wyth ardal hamdden newydd a chyffrous ar hyd ffordd y goedwig.

Bydd y mannau gorffwys ar hyd y ffordd saith milltir yn cynnig rhywbeth i bawb – o deuluoedd a chanddynt fforwyr bychain yn eu plith i gerddwyr profiadol yn chwilio am fan tawel i gael paned a mwynhau’r olygfa.

Mae'r rhain yn cynnwys tair ardal chwarae newydd, ardal adrodd straeon, cyfleusterau dysgu, llwybrau ar gyfer pob gallu, a sawl man eistedd a man picnic newydd.

Mae'r prosiect partneriaeth rhwng CNC a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ailagor Ffordd Goedwig Cwm Carn wedi cael buddsoddiad sylweddol ac mae'n rhywbeth y mae llawer wedi bod yn aros yn eiddgar amdano.  

Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd yn agor am gyfnod prawf ganol mis Mawrth gyda'r bwriad o ailagor y ffordd goedwig yn swyddogol yn ystod gwyliau'r Pasg 2021.

Dywedodd Geminie Drinkwater, sy’n Rheolwr Prosiect gyda CNC:

"Mae wedi bod yn fraint aruthrol gallu gweithio ar y prosiect hwn a gweld syniadau a dyheadau llawer o bobl leol ac ymwelwyr yn dwyn ffrwyth. 
"Mae Coedwig Cwm Carn yn ased pwysig i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan ddarparu mynediad gwerthfawr i fannau gwyrdd a golygfeydd trawiadol o gefn gwlad.
"Fel cynifer o bobl eraill rwyf wedi cyfarfod â nhw drwy gydol y prosiect hwn, fel plentyn, treuliais lawer o ddyddiau hapus yn ymweld â'r ffordd goedwig gyda'm teulu, ac alla’ i ddim aros i allu mynd â'm teulu fy hun i goedwig Cwm Carn a mwynhau rhodfa’r goedwig unwaith eto."

Dywedodd David Letellier, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

"Mae hwn wedi bod yn brosiect heriol, ac rydym yn diolch i'r gymuned am eu hamynedd â'r gwaith o fewn y goedwig dros y blynyddoedd diwethaf.
"Yr her gyntaf oedd delio ag effaith ddinistriol clefyd coed llarwydd o fewn y goedwig, a arweiniodd at golli miloedd lawer o goed llarwydd aeddfed a chau'r ffordd dros dro.
"Yna daeth yr her i sicrhau'r arian sylweddol oedd ei angen i ddechrau'r prosiect ailddatblygu, ac yna mewn dim o dro daeth effaith y pandemig byd-eang a cham anochel yn ôl yn y gwaith adeiladu ar yr union adeg yr oedd y prosiect yn dechrau arni.
"Felly mae'n teimlo'n dda iawn gallu dweud ein bod wedi goresgyn yr holl heriau hyn a bod diwedd y gwaith o fewn golwg. Gobeithiwn y bydd Ffordd Goedwig Cwm Carn ar ei newydd wedd yn ategu'r cyfleusterau eraill ar y safle ac yn helpu i’w sicrhau fel atyniad poblogaidd i ymwelwyr am flynyddoedd lawer."

Mae coedwig Cwm Carn hefyd yn gartref i bedwar llwybr beicio mynydd arbennig, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, a chyfleusterau gwersylla a llyn ar gyfer chwaraeon dŵr.

Mae cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar rai cyfleusterau ar hyn o bryd. Dilynwch @NatResWales a @cwmcarnforest i gael y diweddaraf.