'Byddwch yn barod am y gaeaf' yw cyngor CNC

Gyda'r gaeaf yn prysur agosáu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i weithredu a pharatoi ar gyfer y tywydd newidiol a heriol y gallai'r tymor ei gyflwyno.

Arweiniodd stormydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel Storm Ciara a Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, at lefelau eithriadol o lifogydd, y rhai mwyaf difrifol a welwyd yng Nghymru ers 1979.

Mae disgwyl mwy o law a lefelau uwch o berygl llifogydd wrth i'r argyfwng hinsawdd waethygu, gan roi mwy a mwy o gymunedau mewn perygl.

Mae amddiffynfeydd rhag llifogydd CNC yn helpu i ddiogelu 73,000 eiddo ledled Cymru. Ond gall unigolion a chymunedau hefyd chwarae rhan bwysig o ran lleihau effaith llifogydd drwy fod yn ymwybodol o beryglon llifogydd, yr effeithiau posibl a thrwy fod yn barod i weithredu os a phan fydd llifogydd yn digwydd.

Mae tua 245,000 eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a dyna pam mae CNC yn annog pobl i gymryd rhai camau syml i helpu i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion paratoi:

  • Darganfyddwch a ydych mewn perygl o lifogydd – Mae mapiau llifogydd diwygiedig CNC yn nodi a yw eich ardal mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr, cronfeydd dŵr neu o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach:.
    Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwasanaeth Gweld Eich Risg Llifogydd newydd yma. Ar gyfer yr eiddo hynny sydd mewn perygl, mae'r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth am y camau ymarferol y gall teuluoedd a busnesau eu cymryd i leihau effaith llifogydd.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd - Mewn llawer o ardaloedd lle mae perygl llifogydd, gallwch ymuno â gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim CNC er mwyn cael neges awtomataidd pan fydd rhybudd llifogydd neu rybudd llifogydd difrifol wedi'i gyhoeddi yn eich hardal.
  • Lluniwch gynllun llifogydd – Mae gwefan CNC yn cynnwys cyngor, adnoddau a dolenni at wybodaeth ddefnyddiol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.  Mae ganddi hefyd dempledi y gellir eu lawrlwytho a all helpu pobl i baratoi ar gyfer llifogydd, cymryd camau i leihau effaith llifogydd, yn ogystal â chamau y bydd angen i bobl eu cymryd yn ystod llifogydd.  Mae cynllun llifogydd yn dangos gwybodaeth bwysig fel lleoliad prif gyflenwad nwy/dŵr a rhifau cyswllt allweddol a gellir ei ddefnyddio i gofnodi pa gamau i'w cymryd a phryd.
  • Paratowch becyn llifogydd – Byddwch yn barod am lifogydd a chael pecyn wedi'i baratoi ymlaen llaw sy'n cynnwys eitemau hanfodol fel copïau o ddogfennau yswiriant, pecyn cymorth cyntaf, meddyginiaeth bresgripsiwn, cyflenwadau ar gyfer anifeiliaid anwes neu fabanod, tortsh a dillad cynnes, diddos.
  • Oes gennych chi yswiriant? Edrychwch i weld a oes gennych yswiriant llifogydd digonol fel rhan o'ch yswiriant.
  • Darganfyddwch pwy all helpu? Mae gwahanol sefydliadau'n delio â rhai mathau o lifogydd (e.e. arfordirol, dŵr wyneb, afon ac ati). Gallwch weld pwy sy'n delio â beth ar ein tudalen cyfrifoldebau yma.
  • Gallwch hefyd gael help a chyngor drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188 

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Gall llifogydd ddinistrio cartrefi a difetha busnesau dros nos, gan effeithio ar gymunedau cyfan, a dyna pam mae cymaint o'n hadnoddau’n mynd tuag at leihau perygl llifogydd i bobl sy'n byw yng Nghymru.
"Mae disgwyl i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn amlach wrth i'n hinsawdd newid. Ac er bod ein timau'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i leihau'r risg i bobl ac eiddo ledled Cymru, ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd.
"Dyna pam ei bod mor bwysig i ni i gyd - yn ddeiliaid tai a pherchnogion busnes - ddeall y risg a'r camau y gallwn i gyd eu cymryd i helpu i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd a'n heiddo y gaeaf hwn.
"Deall eich perygl o lifogydd yw'r cam cyntaf. Nid yw'r ffaith nad oes llifogydd wedi bod yn eich ardal chi o'r blaen yn golygu na fydd llifogydd ar ryw adeg yn y dyfodol.  Os ydych chi’n canfod bod eich eiddo mewn perygl o lifogydd, mae cyfoeth o wybodaeth, cyngor a gwasanaethau ar gael ar ein gwefan."

Dysgwch am yr holl ystod o wasanaethau sydd ar gael i baratoi ar gyfer yr amser cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd