Allyriadau’n gostwng yn sgil adolygu trwyddedau diwydiannol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau adolygiad o drwyddedau amgylcheddol pump o bwerdai mawr yng Nghymru, ac o ganlyniad bydd perfformiad amgylcheddol yn gwella ac allyriadau’n gostwng o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Adolygwyd trwyddedau Gorsaf Bŵer Penfro, Gorsaf Bŵer Hafren, Gorsaf Bŵer Cei Connah, Gorsaf Bŵer Bae Baglan a Gwaith Cyd-gynhyrchu’r Barri i gyd yn unol â’r fersiwn diweddaraf o Ddogfen Gyfeirio’r Undeb Ewropeaidd o’r Technegau Gorau sydd ar Gael (BREF).
Mae hyn yn un o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol, sydd â’r nod o sicrhau fod pob pwerdy’n dal i ddefnyddio’r technegau gorau ar gyfer atal neu leihau allyriadau a’u heffaith ar yr amgylchedd. Gall technegau gynnwys y dechnoleg a ddefnyddir yn ogystal â’r ffordd y caiff pwerdy ei ddylunio, ei adeiladu, ei gynnal a chadw, ei weithredu a’i ddatgomisiynu.
Ailgyflwynwyd y trwyddedau bellach, gydag amodau diwygiedig a chyfyngiadau llymach ar allyrru llygryddion fel nitrogen ocsid a charbon monocsid i’r aer. Mewn rhai pwerdai, fel Gwaith Cyd-gynhyrchu’r Barri yn ne Cymru, disgwylir y bydd hyn yn gostwng allyriadau cymaint â 50% ar ôl Awst 2021.
Meddai Holly Noble, Arweinydd Tîm Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Pwerdai nwy sy’n cynhyrchu bron i 75% o’r holl drydan a gynhyrchir yng Nghymru, ac felly mae’n ddiwydiant o bwys, ond fel corff rheoleiddio mae’n bwysig hefyd ein bod ninnau’n dal i geisio’r perfformiad amgylcheddol gorau posib.
“Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion newydd â’r nod o sicrhau fod holl gartrefi Cymru’n cael eu gwresogi a’u pweru gan ynni o ffynonellau glân – mae hyn yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
“Mae’r ddogfen BREF a’n hadolygiad ninnau’n cyd-daro â phenderfyniad RWE i gau a datgomisiynu’r pwerdy glo yn Aberddawan, sydd dan ein goruchwyliaeth ar hyn o bryd. Bydd y penderfyniad hwnnw’n cyfrannu’n sylweddol at gyflawni’r targedau lleihau carbon yng Nghymru, a bydd yn golygu y bydd Cymru’n cynhyrchu ynni heb ddefnyddio glo, a hynny bum mlynedd cyn dyddiad targed y Deyrnas Gyfunol yn 2025.”
Bydd CNC yn adolygu trwyddedau amgylcheddol mewn diwydiannau eraill yn y flwyddyn nesaf, gan gynnwys y sectorau Trin Gwastraff a Bwyd, Llaeth a Diod.