Llwybr pren Cors Caron i ymwelwyr yn cau ar gyfer gwaith adfer ac atgyweirio - Tachwedd 2022

Cau llwybr ymwelwyr Cors Caron Tachwedd 2022

Bydd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau cynnal gwaith adfer y mis Tachwedd hwn a fydd yn golygu bod y prif lwybr pren i ymwelwyr yn cau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.

Mae rhan ddeheuol y prif lwybr pren wedi cau ar hyn o bryd gan fod gwaith yn cael ei wneud i gael gwared o brysgwydd (mân goed). O 15 Tachwedd ymlaen bydd y llwybr pren cyfan yn cau am bythefnos er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw.

Bydd y gwaith yn golygu cael gwared o brysgwydd (mân goed) sydd ar hyn o bryd yn sugno dŵr o’r gors sy’n ei sychu. Ar yr un pryd, bydd deunydd gwrthlithro mwy cadarn yn cael ei osod yn lle’r llwybr pren.

Bydd hyn yn cyd-fynd â gwaith arall sydd wedi cael ei wneud o’r blaen yn y flwyddyn, i wella ac uwchraddio’r llwybr pren i ymwelwyr.

Meddai Rebecca Thomas, swyddog Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae cael gwared o’r prysgwydd yn rhan hanfodol o waith y prosiect i wella cyflwr GNG Cors Caron, a bydd adnewyddu’r llwybr pren yn gwella mynediad i’r safle i ymwelwyr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster y bydd y gwaith hwn yn ei achosi.”

Bydd ymwelwyr yn dal i allu defnyddio llwybr yr hen reilffordd nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr. Mae arwyddion wedi cael eu gosod i roi gwybod i ymwelwyr pa rannau o’r warchodfa sydd wedi cau.

Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn bydd prosiect LIFE yn parhau i fonitro adferiad y safle gyda’r bwriad o’i wneud yn fwy cadarn a helpu i storio mwy o garbon yn wyneb y pwysau cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Adfywio Cyforgorsydd Cymru