Gofyn i drigolion Meifod a Llanfair Caereinion am eu barn ar gynllun i wella coetiroedd lleol a’r amgylchedd

Golygfa o goedwig

Mae pobl sy'n byw ger Llanfair Caereinion a Meifod yn cael eu gofyn i roi eu barn ar gynllun i reoli coedwigaeth leol.

Byddai cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn golygu bod coetiroedd hynafol yn cael eu hadfer i rannau helaeth o 22 o goedwigoedd yn yr ardal ac i greu amrywiaeth gwell o rywogaethau coed yn yr ardal. Mae'r 22 bloc o goetir yn gorchuddio dros 630 hectar.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhoi cyfle i drigolion ddylanwadu ar reolaeth y goedwig yn y am y ddegawd nesaf a thu hwnt.

Dywedodd Becky Hares, Uwch Reolwr Tir CNC:
"Trwy gynllunio datblygiad ein coedwigoedd, gallwn ni wneud yn siŵr eu bod nhw'n dod â'r budd mwyaf posib i ni ac i fyd natur.
"Rydyn ni eisiau i'r coedwigoedd rydyn ni'n rheoli i fod yn lefydd i bobl chwarae, ymlacio ac i wneud bywoliaeth ynddyn nhw. Rydym am gyflawni hynny drwy sicrhau hefyd bod bywyd gwyllt a'r amgylchedd lleol yn ffynnu, ochr yn ochr â chynhyrchu pren o ansawdd ar gyfer y farchnad.
"Ry'n ni eisiau i bobl sy'n byw ger Llanfair Caereinion a Meifod roi eu barn i ni am ein cynllun i wneud yn siŵr ei fod o fudd i'r ardal."

Mae modd darllen ac ymateb i'r cynlluniau trwy ymweld â gwefan ymgynghori CNC ynglŷn â: https://bit.ly/CACMathrafal.

Fel arall, gall breswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn i siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Gall swyddog anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0AL.

Bydd angen dychwelyd unrhyw adborth erbyn 18 Rhagfyr 2022 fan bellaf.