Buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn dod â swyddi i'r goedwig

Mae Parc Cenedlaethol ysblennydd Bannau Brycheiniog ar fin croesawu datblygiad newydd cyffrous wrth i Forest Holidays, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gyhoeddi ei gynlluniau i ddod â’i brofiad gwyliau mewn cabanau i dde Cymru.

Mae safle Canolfan Ymwelwyr CNC sydd wedi’i leoli yng nghanol y coetiroedd yng Ngarwnant wedi’i ddewis fel lleoliad ar gyfer 40 o gabanau pren eco-sensitif. Bydd y prosiect nid yn unig yn dod â swyddi gwerthfawr, mewnfuddsoddiad a buddion economaidd i dde Cymru ond bydd hefyd yn gwella'r amgylchedd naturiol oherwydd eu dyluniad a'u rheolaeth sensitif.

Yn y pen draw, bydd y lleoliad newydd yn creu hyd at 60 o swyddi ac yn rhoi hwb blynyddol o £1.5m i'r economi leol.

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru CNC:

“Un o’n rolau allweddol yw rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd sydd o fudd i amgylchedd, pobl ac economi Cymru. Mae'r bartneriaeth hon gyda Forest Holidays, y mae eu lleoliadau cabanau wedi'u dylunio i ddiogelu a gwella eu lleoliadau mewn coedwigoedd, yn enghraifft wych o hyn.
“Mae CNC yn rheoli tua 126,000 hectar o goetir ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n gorchuddio chwech y cant o dir Cymru. Rydym ni eisiau annog mwy o gyfleoedd masnachol cynaliadwy sydd o fudd i amgylchedd Cymru i bobl ac i fyd natur nawr ac yn y dyfodol.
“Mae’r prosiect cyffrous hwn yn enghraifft wych o sut rydym ni’n gwireddu ein huchelgais i gefnogi’r datblygiad iawn yn y lleoedd iawn.”

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn ystod pandemig Covid-19 gyda mwy o bobl eisiau manteisio ar y cyfle i fynd ar deithiau dydd a gwyliau yn nes at adref.

Saif Canolfan Ymwelwyr Garwnant yng nghanol coedwig Coed Taf Fawr ar gyrion Bannau Brycheiniog ger Merthyr Tudful. Mae’n fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd i feicwyr iau ac yn llwybr cwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a bygis.

Bydd pobl sy’n dod i ymweld am y dydd yn elwa o Ganolfan Ymwelwyr, caffi a siop wedi’u gwella, gyda mwy o ddewis o fwyd a diod, oriau agor hirach a seddi ychwanegol, yn ogystal â chyfleuster llogi beiciau newydd sbon a mwy o weithgareddau a phrofiadau awyr agored fel y gall ymwelwyr wneud y gorau o bopeth sydd gan Garwnant a’r Parc Cenedlaethol i’w gynnig.

Dywedodd Jodie Bond, Rheolwr Materion Cyhoeddus Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r Awdurdod yn croesawu datblygiad gwledig cynaliadwy o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd Forest Holidays nid yn unig yn creu swyddi ond hefyd mewnfuddsoddiad i’r economi leol sy’n newyddion ardderchog. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr i’r Parc i grwydro’r dirwedd hardd, ac archwilio ein treftadaeth leol a’n diwylliant.”

Mae Forest Holidays yn rhedeg 11 lleoliad yn llwyddiannus ar draws y DU mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Forestry England, a Forestry & Land Scotland, gan gynnig gwyliau a gwyliau byr yn rhai o leoliadau naturiol mwyaf trawiadol y DU.

Agorwyd eu safle cyntaf yng Nghymru ym Meddgelert ym mis Mehefin 2018, gyda 16 o gabanau, gan roi’r cyfle i westeion fwynhau Parc Cenedlaethol prydferth Eryri. Garwnant, Bannau Brycheiniog yn ddiweddarach eleni fydd ail leoliad y cwmni yng Nghymru a’r chweched lleoliad mewn Parc Cenedlaethol.

Meddai Prif Weithredwr Forest Holidays, Bruce McKendrick:

“I unrhyw un sy’n caru’r awyr agored, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle anhygoel i’w ddarganfod, ac rydym ni’n teimlo’n freintiedig i allu helpu eraill i fwynhau a threulio amser yn y dirwedd eiconig hon sydd â hanes mor gyfoethog.
"Rydym ni’n edrych ymlaen at wneud cyfraniad gwerthfawr ac eco-sensitif i’r economi dwristiaeth gynyddol yn Ne Cymru, creu swyddi lleol newydd, gwelliannau i amgylchedd y goedwig a’r buddion economaidd a ddaw yn sgil ein lleoliad newydd i’r ardal gyfagos.”