Afon yn elwa wedi i lygrwr dalu

Mae digwyddiad mawr o lygredd mewn afon yng Nghanolbarth Cymru wedi costio £40,000 i un cwmni.
Mae Pencefn Feeds Ltd, ger Tregaron, wedi talu’r swm wedi ymchwiliad manwl gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i’r digwyddiad ym mis Rhagfyr 2016.
Credir bod tua 18,000 o bysgod wedi cael eu lladd ar ddarn pum milltir o afon Teifi pan ollyngodd oddeutu 44,000 galwyn o lygrydd o waith treulio anaerobig.
Bydd £15,000 yn mynd i Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i adfer cynefinoedd pysgod yn yr ardal.
A bydd £5,000 arall yn mynd i Sefydliad y Gynghrair Cefn Gwlad i ariannu gweithgareddau addysg am bysgod a'r amgylchedd lleol i blant yn ardal Tregaron.
Mae’r taliad yn gyson a dirwy posibl ac mae wedi’i wneud fel “ymgymeriad gorfodi.” Golyga hyn y bydd yr arian yn elwa’r amgylchedd lleol yn uniongyrchol.
Mae'r £20,000 terfynol yn talu'r holl gostau ymchwilio a chyfreithiol sy'n ymwneud â'r achos.
Dywedodd Ann Weedy, rheolwr gweithrediadau Canolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth a llafurus iawn ac rydym yn falch o weld y gosb ariannol yn cael ei defnyddio’n uniongyrchol i atgyweirio peth o’r difrod a achoswyd gan y digwyddiad hwn.
“Bydd hyn yn gwneud afon Teifi yn lle gwell i bysgod a bywyd gwyllt trwy ffensio glannau afonydd a datblygu llystyfiant ar lan yr afon.
“Rydyn ni'n gobeithio bydd y taliadau hyn yn atgoffa busnesau y byddwn ni'n cymryd camau gorfodi os ydyn nhw'n llygru ein hamgylchedd ac os nad ydyn nhw'n gweithredu'n gyfrifol.”
Yn ogystal ag ymchwilio i'r digwyddiad a goruchwylio’r gwaith glanhau, fe wnaeth CNC ymchwilio i rolau pob cwmni yn y digwyddiad.
Fodd bynnag, roedd yr is-gontractwr oedd yn bennaf gyfrifol am y digwyddiad, Hallmark Power Ltd, wedi mynd yn fethdalwr felly ni ellid dwyn erlyniad yn ei herbyn. Ac roedd y prif gontractwr, ComBigaS UK, hefyd wedi peidio a bod, ac ni ellid cymryd erlyniad yn ei herbyn hwythau.
Roedd gan ComBigaS Denmarc gysylltiad â’r prosiect ond nid oedd ganddo unrhyw sail cyfreithiol yn y DU ac felly nid yw'n dod o dan gyfraith y DU.
Fe wnaeth perchennog y safle, Pencefn Feeds Ltd, godi pryderon gyda’r cwmnïau ynglŷn ag ansawdd eu gwaith, ond ni weithredwyd ar y consyrn yna. Fe fyddai hyn wedi darparu lliniaru sylweddol pe bai’r mater wedi mynd i’r llys a daeth CNC i’r casgliad mai derbyn ymgymeriad gorfodi oedd yr opsiwn gorau yn yr achos yma.
Dywedodd Dr Stephen Marsh-Smith OBE, Cyfarwyddwr Afonydd Cymru, y corff ymbarél sy’n cynrychioli chwe Ymddiriedolaeth Afonydd Cymru:
“Roedd hwn yn achos trasig a oedd yn ddrwg i afon Teifi a’i physgodfeydd.
“Serch hynny, rydym yn cymeradwyo defnyddio Ymgymeriad Gorfodi i ddatrys agwedd reoleiddio yr achos gan y bydd rhywfaint o arian nawr yn cael ei roi tuag at waith adfer yn y dalgylch.
“Mae datrys difrod tymor hwy yn parhau i fod yn fater ar wahân.”
Dywedodd Rachel Evans, Cyfarwyddwr Cymru i’r Gynghrair Cefn Gwlad:
“Mae Pysgota i Ysgolion bob amser yn ddiolchgar o dderbyn cyllid i’n helpu i estyn allan at fwy o bobl ifanc sy’n elwa o’n dull unigryw o addysgu trwy bysgota.
“Bydd cyllid sy’n dod o ddigwyddiad llygredd, er mor drist, yn tynnu sylw at yr angen bythol i sicrhau bod cadwraeth a’r amgylchedd yn flaenllaw yn ein gwaith gydag ysgolion.
“Mae pysgota wedi bod yn rhan bwysig o gymuned a threftadaeth Tregaron bob amser. Rydym yn gweithio i wella ac ymestyn yr etifeddiaeth gyfoethog honno trwy wneud defnydd da o'r wobr hon.”
Mae CNC wedi bod yn monitro afon Teifi ers y digwyddiad ac yn cadarnhau na fu fawr o effaith ar infertebratau. Mae eogiaid bach wedi cael eu canfod yn yr ardal yr effeithiwyd arni, felly mae'n debygol bod o leiaf rhai wyau wedi goroesi.
Fodd bynnag, lladdwyd eogiaid ifanc ac eogiaid aeddfed. Lladdwyd nifer fawr o frithyll brown hefyd, a bydd y rhywogaeth hon yn cymryd peth amser i wella.
Aeth Ann yn ei blaen:
“Mae afon Teifi yn un o'r pysgodfeydd hamdden a net mwyaf eiconig a phwysig yng Nghymru ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer pysgod sydd mewn perygl, fel llysywen bendoll, eog a phenlletwad.
“Mae angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i wneud popeth o fewn ein gallu i adfer yr afon a lleihau'r nifer neu'r digwyddiadau llygredd sy'n niweidio ein hamgylchedd gwerthfawr yng Nghymru.”
Mae CNC wedi cynnal mwy na 100 o ymweliadau atal llygredd â ffermydd yng Ngheredigion a dalgylch Teifi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae'r rhain wedi helpu i leihau'r risg o lygredd o slyri fferm.
Mae hefyd wedi archwilio’r 3 safle treulio anaerobig arall yng Ngheredigion i sicrhau bod eu mesurau atal llygredd yn addas.
Mae Pencefn Feeds Ltd bellach wedi gwneud cais am hawlen amgylcheddol fel eu bod yn gallu parhau i weithredu.