Ceisio barn ar gynllun i wneud coedwigoedd Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin yn addas ar gyfer y dyfodol

Coedwig ger Llanbedr Pont Steffan

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i drigolion Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin ddweud eu dweud ar gynllun i sicrhau bod coedwigoedd yn yr ardal yn addas ar gyfer y dyfodol.

Nod y cynllun yw cynnal a gwella bioamrywiaeth y coedwigoedd, i feithrin gwydnwch y coedwigoedd i blâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd, ac i feithrin cyflenwad cynaliadwy o bren.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin yn cwmpasu 663 hectar sy'n cynnwys nifer o goetiroedd bach ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, a nifer o flociau mwy o faint o amgylch Cilcennin, Cross Inn a Bethania.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ledled Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i ganiatáu i farn trigolion ddylanwadu ar reolaeth y goedwig yn y dyfodol am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Meddai Jim Ralph, Uwch Reolwr Tir CNC:
"Mae ein coedwigoedd yn cynnig llawer o fanteision i'r byd naturiol ac i'n cymunedau. Maent yn cefnogi bioamrywiaeth leol, yn ein helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren cynaliadwy i ni ei ddefnyddio, a lleoedd gwych i bob un ohonom dreulio amser ynddynt a'u mwynhau.
"Rydym am sicrhau bod trigolion ardaloedd Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin yn cael cyfle i roi eu barn ar y cynlluniau ar gyfer eu coedwigoedd lleol ac i helpu i sicrhau ein bod yn gosod ac yn cyrraedd y targedau cywir ar gyfer yr ardal."

Gall preswylwyr weld yr ymgynghoriad ac ymateb iddo drwy ymweld â thudalen we ymgynghori CNC ar https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/ a chwilio am 'Gynllun Adnoddau Coedwig Llanbedr Pont Steffan a Chilcennin.

Fel arall, gall preswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag Alan Wilson neu Jim Ralph. O'r fan honno byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0AL.

Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 19 Mehefin 2022 fan bellaf.