Gwaith cwympo coed a gwella i ddechrau yng Nghoedwig Cenarth

Chlefyd Coed Ynn

Mae gwaith wedi cychwyn i gwympo coed sydd wedi’u heintio â Chlefyd Coed Ynn yng Nghoedwig Cenarth.

Bydd tua 200 o goed heintiedig yn cael eu cwympo yn y goedwig - y cyfeirir ati hefyd fel coedwig Allt y Ceiliog - i atal lledaeniad y clefyd a all effeithio'n ddifrifol ar strwythur coed a bod yn berygl i'r cyhoedd.

Yn ogystal â thynnu coed, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n rheoli'r rhan hon o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, hefyd yn cymryd camau i wella’r maes parcio, yr ardal bicnic, llwybrau cerdded ac uwchraddio'r ffordd goedwig bresennol ar gyfer ymwelwyr.

Disgwylir i'r gwaith gymryd tua chwe mis i'w gwblhau. Bydd y coetir yn parhau ar gau er diogelwch yn ystod y cyfnod hwn.

Me arwyddion i’w cael ar y safle’n nodi gwyriadau a lle mae llwybrau wedi’u cau.

Meddai Phil Morgan, Arweinydd Tîm Rheoli Tir, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Sicrhau diogelwch ymwelwyr â'n safleoedd yw ein prif flaenoriaeth. O ystyried yr effaith y mae clefyd coed ynn yn ei chael ar gryfder strwythurol coed, mae'n hanfodol cael gwared ar y coed sydd wedi'u heintio.
"Mae gwaith cwympo coed yn cymryd cryn dipyn o amser ac, o'r herwydd, bydd angen cau'r goedwig i ymwelwyr am tua chwe mis.
"Mae arwyddion clir ledled y goedwig i rybuddio ymwelwyr am y gwaith cwympo coed ac rwy'n annog pobl i gadw at y canllawiau hyn er eu diogelwch nhw a diogelwch ein contractwyr."

Mae Clefyd Coed Ynn yn glefyd difrifol sy’n effeithio ar goed ynn, ac fe’i achosir gan ffwng o'r enw Hymenoscyphus fraxineus.

Mae'r ffwng yn cysylltu ei hun â dail coed ynn ac yn ymledu drwodd i'r canghennau, gan achosi i'r goeden farw.

Gall canghennau marw a choed marw cyfan fynd yn fregus a chwympo, gan achosi perygl difrifol i'r cyhoedd.

Mae mwy o wybodaeth am iechyd coed yng Nghymru ar gael yma: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/forestry/tree-health-and-biosecurity/tree-health-in-wales/?lang=cy.