Gwaith brys i leihau’r perygl o lifogydd

Gravel being removed from the Dysynni Estuary

Mae gwaith brys yn cael ei wneud ar hyn o bryd i dynnu graean sy’n rhwystro llif afon yng Ngwynedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tynnu 60,000 tunnell o raean o Afon Dysynni yn Aber Dysynni, er mwyn diogelu 26 eiddo yn Nhywyn rhag llifogydd posibl.

Mae’r rhwystr wedi lleihau llif y dŵr sydd wedi achosi i lefel yr afon a chrynhoi dŵr yng nghydlifiad Afon Dysynni ac Afon Fathew. Mae hyn yn ymestyn cyn belled â Bryncrug ac o bosibl yn gwanhau’r clawdd llifogydd.

Meddai Gwyn Fon Thomas, Peiriannydd Gweithrediadau CNC:

“Buom yn clirio Dysynni ddiwethaf yn 2012 ond mae cyfuniad o achosion naturiol – newid hinsawdd, stormydd y gaeaf a llanw uchel yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – wedi achosi bod rhwystr unwaith eto yn yr afon.
“Os nad yw’r gwaith hwn yn cael ei wneud gallai’r dŵr sydd wedi cronni olygu bod dŵr yn codi’n uwch na’r amddiffynfa llifogydd a pheryglu pobl ac eiddo.
“Nid yw’r gwaith yma yn rhywbeth syml gan fod yr ardal yn bwysig i fywyd gwyllt, yn arbennig adar gwyllt, ac felly rydym yn cymryd rhagofalon ychwanegol i sicrhau ein bod yn aflonyddu cyn lleied ag sydd bosibl ar adar sy’n nythu.”

Bydd y graean yn cael ei osod ar lan ogleddol yr afon a’r bwriad yw y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y pum diwrnod nesaf.