Ein gwaith yng Nghoedwig Cwmcarn

Y newyddion diweddaraf

21/05/21 Rhodfa Coedwig Cwmcarn yn ailagor heddiw!

Heddiw (dydd Llun 21 Mehefin) mae Rhodfa Coedwig Cwmcarn yn croesawu ymwelwyr yn ôl yn eu ceir, am y tro cyntaf ers chwech blynedd.

Gyda chyfnod gwyliau'r haf yn agosáu, bydd ymwelwyr yn gallu archwilio pob un o saith milltir Rhodfa’r Goedwig ar ei newydd newydd mewn car ar ôl cwblhau gwaith adfer a gwella mawr a wnaed mewn partneriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Pris mynediad i’r rhodfa fydd £8 i geir, £4 i feiciau modur, £15 i fysiau mini a £30 i goetsys. Dim ond arian parod ellir ei dalu wrth y rhwystr, neu gellir cael tocynnau o dderbynfa’r safle. Mae'r rhodfa’n gweithredu system un ffordd ac nid oes cyfyngiadau amser i ymwelwyr.

06/05/21 Dyddiad wedi’i bennu ar gyfer agor Rhodfa Coedwig Cwm Carn

Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi y bydd Rhodfa Goedwig Cwm Carn yn ailagor i geir ar 21 Mehefin.

Mae llawer elfen newydd i'w mwynhau ar hyd y llwybr saith milltir gan gynnwys tair ardal chwarae newydd, llwybrau pob gallu newydd, cerfluniau coetir a digon o leoedd i gael picnic.

Pris mynediad fydd £8 ar gyfer ceir, £4 ar gyfer beiciau modur, £15 ar gyfer bysiau mini a £30 i fysiau.

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu'n ôl, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r Rhodfa ar ei newydd wedd gymaint â ni.

03/03/21 Gohirio dadorchuddiad Rhodfa Coedwig Cwm Carn

Yn anffodus rydym yn gorfod gohirio ailagor Rhodfa Coedwig Cwm Carn er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau cyfredol Covid-19.

Roeddem wedi gobeithio gallu croesawu ymwelwyr am y tro cyntaf yn ddiweddarach y mis hwn, ond mae’n rhaid i leihau effaith y pandemig coronafeirws a diogelu iechyd pobl fod yn brif flaenoriaeth.

Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn deall ein rhesymau dros ohirio hyn. Unwaith y bydd gennym well syniad o bryd y gallai fod yn ddiogel ystyried ailagor, byddwn yn rhoi gwybod ichi.

11/11/20 -Paratoadau terfynol ar y gweill ar gyfer ailagor Ffordd Goedwig Cwm Carn

Mae'r gwaith o roi wyneb newydd i Yrfa Coedwig Cwm Carn yn symud ymlaen, , wrth iddo agosáu at gau pen y mwdwl ar y gwaith ailddatblygu.

Mae’r dasg olaf hon yn dilyn misoedd o waith i greu wyth ardal hamdden newydd a chyffrous ar hyd ffordd y goedwig.

Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd yn agor am gyfnod prawf ganol mis Mawrth gyda'r bwriad o ailagor y ffordd goedwig yn swyddogol yn ystod gwyliau'r Pasg 2021.

 

15/10/20 - Bwrw ymlaen â chynlluniau i ailddatblygu Ffordd Goedwig Fforest Cwmcarn

Mae contractwyr wedi dechrau ar gam nesaf y gwaith yng nghoedwig Cwmcarn fel rhan o gynlluniau i ailddatblygu ac ailagor ffordd y goedwig. 

Mae contractwyr yn gwaith tirlunio ar draws yr wyth lleoliad a nodwyd i’w gwella ar hyd Ffordd y Goedwig.

Yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o waith, bydd tri man chwarae hygyrch newydd hefyd yn cael eu gosod, ynghyd ag wyth toiled di-ddŵr cynaliadwy mewn lleoliadau allweddol. 

Mae gwaith atgyweirio ar wyneb y ffordd hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer gosod yr haen uchaf unwaith y bydd y gwaith tirlunio – y disgwylir iddo gymryd tua 12 wythnos – wedi’i gwblhau. 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae CNC yn cynghori pobl y bydd peiriannau trymion yn gweithredu ar y safle, ac yn gofyn i bobl ddilyn hysbysiadau diogelwch ac arwyddion dargyfeirio llwybrau. 

29/01/2020 Gwaith osod wyneb newydd

Y mis diwethaf fe gyhoeddon ni ein bod wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer datblygiadau newydd cyffrous yng nghoedwig Cwmcarn. Er bod y rhain yn cael eu hystyried, rydym yn gwneud trefniadau ar gyfer ailagor y ffordd fforest.

Yn anffodus, bu ychydig o oedi cyn dechrau ar y gwaith o osod wyneb newydd angenrheidiol. Rydym bellach yn disgwyl i hyn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl er mwyn i'r ffordd allu agor i ymwelwyr unwaith eto.

 

16/12/10 Carreg filltir wrth i gynlluniau Cwmcarn gael eu cyflwyno

Mae’r gwaith cwympo coed wedi’i gwblhau, ac rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyflwyno ein cais cynllunio i ailddatblygu Rhodfa’r Goedwig. Rydym yn bwriadu datblygu wyth safle hamdden ar hyd y rhodfa – gan gynnwys ardaloedd chwarae, picnic a barbeciw, llwybrau i bob gallu, cerfluniau coetir, a chaban pren ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a gweithgareddau iechyd a lles.

Gallwch ddarllen rhagor am y cynlluniau yn ein datganiad i’r wasg, a gweld y cais cynllunio ar wefan y Cyngor.

Sylwch fod y gwaith o ailblannu mewn ardaloedd lle y cafodd coed eu cwympo yn parhau, ac felly mae’n bosibl y bydd ymwelwyr yn sylwi ar beiriannau’n parhau i weithio ar y safle.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi yn gyson am gynnydd ein cynlluniau, ac edrychwn ymlaen at groesawu hen gyfeillion a chyfeillion newydd i’r Goedwig a’r Rhodfa y flwyddyn nesaf.

 

26/07/19 Cynigion ar gyfer Ffordd y Fforest

Yn ystod y deufis diwethaf mae CNC wedi bod yn ymgysylltu ag ymwelwyr a thrigolion lleol i gasglu syniadau a dymuniadau'n ymwneud â Ffordd y Goedwig wrth symud ymlaen. Yn ystod y cyfnod hwn, mae amrywiaeth eang o syniadau gwych wedi'u cynnig, ac rydym eisoes wedi dechrau troi nifer o'r rhain yn gynlluniau ar gyfer ardaloedd ar hyd y Ffordd.

Ddydd Sadwrn 7 Medi 2019, byddwn yn trefnu tair sesiwn gyhoeddus trwy ddefnyddio minibws ar Ffordd y Goedwig, gan roi cyfle ichi drafod cynigion yn ymwneud â gwahanol ardaloedd ar hyd y Ffordd.

Bydd y gwasanaeth minibws rhad ac am ddim ar gael o'r ganolfan ymwelwyr a bydd yn cludo pobl ar hyd Ffordd y Goedwig, yn oedi mewn gwahanol fannau, ac yn dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr. Bydd pob taith yn para oddeutu awr a hanner.

Os hoffech ddod draw i un o'r sesiynau, bydd y minibws yn gadael maes parcio gwaelod y ganolfan ymwelwyr ar yr amseroedd canlynol: 10am, 12pm a 2pm.

 

28/06/19 Prosiect i ail agor Ffordd y Fforest

Mae rheolwr prosiect bellach wedi ei benodi wrth i ni baratoi i ailagor y ffordd. Mae gan Geminie Drinkwater profiad helaeth o weithio o fewn prosiectau coedwigaeth a chymunedol.

Mae Geminie eisoes wedi cynnal nifer o sesiynau galw i mewn yng Nghwmcarn er mwyn cael adborth oddi wrth y bobl leol ar beth fydden nhw’n dymuno ei weld yn digwydd yn y goedwig a ffordd y goedwig yn y dyfodol.

Wrth i’n cynlluniau ddatblygu byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth gyda chi ar ein gwefan a thrwy ein sianelau cyfryngau cymdeithasol

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Mae’r Ganolfan Ymwelwyr, a redir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau ar agor fel arfer ac yn gwerthu canllawiau cerdded, mapiau a gwybodaeth am yr ardal gyfagos.

Yn ogystal, mae llyn pysgota, ardal chwarae i blant dan saith oed, siop anrhegion sydd yn gwerthu crefftau sydd wedi eu gwneud yn lleol a nwyddau Cymreig. Yn ogystal â phodiau gwersylla, mae ystod eang o fwydydd a diodydd ar gael yng Nghaffi’r Gigfran.  

Manylion am ymweld â Chwmcarn

Gwybodaeth Bellach

Ar gyfer cwestiynau sydd gennych mewn perthynas â’r safle, cysylltwch â ni ar cwmcarn@naturalresourceswales.gov.uk neu trwy ffonio 03000 65 300 (Llun - Gwener 9am-5pm )

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf