Datganiad polisi cyflog Mawrth 2023

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydnabod pwysigrwydd system gyflog briodol, dryloyw sy'n gyfartal i bawb, sy’n rhoi gwerth am arian, ac sy’ gwobrwyo staff yn deg am y gwaith y maen nhw'n ei gyflawni. Mae'r datganiad polisi hwn yn nodi sut mae CNC yn ymdrin â chyflogau a'r cydberthynas rhwng cyflog y cyflogai a thaliadau uwch-reolwyr. 

Mae'r datganiad hwn wedi'i baratoi yn unol â'r egwyddorion yn y ddogfen ‘Tryloywder cydnabyddiaeth ariannol uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.

Fframwaith deddfwriaethol

Mae gan CNC y pŵer i benodi staff o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012; ac mae'n cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaethau cyflogi perthnasol wrth bennu cyflogau a thaliadau ei staff.

Diffiniadau a'r cyfrifoldeb dros benderfyniadau cyflog

Mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am argymell y trefniadau cyflog priodol ar gyfer staff CNC i Lywodraeth Cymru a Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae'r staff yn gyflogeion o fewn bandiau 1–11, sy'n cynnwys graddau band staff cymorth, gweithredol, technegol, ac arwain a rheoli. Mae'r grŵp hwn felly yn cynnwys holl staff CNC, ac eithrio'r cyfarwyddwyr gweithredol a'r Prif Swyddog Gweithredol.

Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol yn gyfrifol am sicrhau bod undebau llafur yn cymryd rhan lawn mewn  trafodaethau cyflog, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a thrwy gytundeb bargeinio ar y cyd.

Nid yw rolau uwch-reolwyr yn cael eu dirprwyo, ac felly mae eu trefniadau cyflog penodol yn cael eu gweithredu yn unol â'r canllawiau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i argymhellion gan y Cadeirydd mewn perthynas â'r Prif Swyddog Gweithredol, a chan y Prif Swyddog Gweithredol mewn perthynas â'r cyfarwyddwyr gweithredol.

Mae Pwyllgor Pobl a Chyflogau CNC yn gyfrifol am ddyfarnu penderfyniadau ynghylch cyflogau uwch-reolwyr, rheoli perfformiad, potensial a dawn aelodau o staff uwch, a gwneud argymhellion i'r Bwrdd i’w cymeradwyo. Mae'r pwyllgor yn sicrhau bod cyflogau'n cael eu trin mewn modd teg a phriodol a'u bod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau rywfaint o hyblygrwydd i bennu a yw lefel perfformiad cyfarwyddwyr gweithredol yn ddigon da i gyfiawnhau symud i bwynt cyflog uwch. Cyfarwyddwr anweithredol sy’n cadeirio’r pwyllgor. Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor, ei gylch gorchwyl a'i aelodaeth .

Mae argymhelliad y Pwyllgor Pobl a Chyflogau, o ran cyflog y Prif Swyddog Gweithredol, yn amodol ar ei gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Telerau cyflogaeth ac amodau gwasanaeth

Mae CNC yn pennu telerau ac amodau gwasanaeth y mwyafrif llethol o gyflogeion, gan gynnwys cyflogau. O ganlyniad i gyflwyno ein cynllun Gwerthuso Swyddi yn 2018, mae rhai aelodau o staff wedi elwa ar ddiogelu cyflogau ac adlewyrchir hyn yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’ isod.

Trefniadau bargeinio ar y cyd

Mae CNC yn ymfalchïo yn ei berthynas bartner gref â chydweithwyr o'r undebau llafur ac yn gweithio'n agos gyda nhw ar faterion sy'n ymwneud â chyflogau. Mae'r trefniadau ar gyfer negodi ac ymgynghori ar gyflogau wedi'u nodi o fewn ein cytundeb partneriaeth.

Yn hanesyddol, mae dyfarniadau cyflog i staff wedi cael eu negodi ar gyfer cyfnod blynyddol rhwng 1 Gorffennaf a 30 Mehefin, ar sail flynyddol. Fodd bynnag, mae ein cydweithwyr yn yr Undebau Llafur wedi gofyn i newid y dyddiad hwn er mwyn adolygu dyfarniadau cyflog ym mis Ebrill bob blwyddyn, yn unol â chyrff eraill y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cael ei gyflwyno mewn camau dros gyfnod o 2 flynedd, gyda’r flwyddyn gyntaf yn rhedeg rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Mai 2022, a’r flwyddyn ganlynol rhwng 1 Mehefin 2022 a 31 Mawrth 2023.

Egwyddorion cyflog

Yn ogystal â threfniadau bargeinio ar y cyd, mae CNC yn mabwysiadu'r egwyddorion cyflog allweddol a ganlyn:

  • Fforddiadwyedd a gwerth am arian – Mae cytundebau cyflog yn seiliedig ar fforddiadwyedd ac ar sicrhau'r defnydd gorau o arian cyhoeddus.
  • Cyflog cyfartal – Mae'r trefniadau cyflog yn gynhwysol i'r holl staff, ni waeth beth yw eu hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal / o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, anabledd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth o ran rhywedd. Mae Adroddiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol.
  • Didwylledd a thryloywder – Mae manylion cyflogau a thaliadau llawn aelodau'r Bwrdd wedi'u cynnwys o fewn datgeliadau cyfrif blynyddol CNC. Yn ogystal â hyn, bydd cyflogau'r Prif Swyddog Gweithredol, a chyflogau ar lefel y cyfarwyddwyr gweithredol a lefel y cyfarwyddwyr yn cael eu crynhoi'n flynyddol ochr yn ochr â'r datganiad hwn.
  • Cyflog cynyddrannol – Mae gan gyflogeion gyfle i ddringo i gynyddran uchaf eu graddfa cyflog ymhen uchafswm o bedair/pum mlynedd, gan ddibynnu ar eu gradd cyflog.
  • Ffocws ar fynd i'r afael â chyflogau isel a chefnogi'r cyflog byw – Telir y cyflog byw i bob aelod o staff sy’n cael ei gyflogi’n uniongyrchol (a phrentisiaid ar gontractau hyfforddiant), fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Mae CNC yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Trefniadau cyflog

Dangosir cyfraddau bandiau cyflog presennol CNC yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’. Fel arfer, caiff aelodau newydd o staff a benodir eu recriwtio ar lefel isaf y band cyflog perthnasol. Mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft pan fo tystiolaeth yn bodoli sy’n dangos bod recriwtio yn broblem neu fod cyflogai newydd â phrofiad sylweddol wedi bod ar gyflog uwch yn union cyn ymuno â CNC, gellir ei benodi ar gynyddran uwch o fewn y radd gyflog.

Bydd cyflogau'n cynyddu'n gynyddrannol bob blwyddyn hyd oni gyrhaeddir y gyfradd uchaf (fel arfer ymhen tair i bedair blynedd).  Nid yw unigolion y gwerthusir eu bod yn tanberfformio yn gymwys i gynnydd cynyddrannol yn eu cyflog. Pan roddir dyrchafiad, bydd y cyflog cychwynnol ar waelod band cyflog y radd newydd.  Gellir dod o hyd i nifer gyfredol a hanesyddol y staff ar bob gradd yn yr adran ‘Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC’ yn y drefn honno.

Mae’r polisi cyflogau ar gyfer staff ar y lefelau uchaf yn cael ei bennu gan ddefnyddio cynllun Gwerthuso Swyddi Uwch yr Uwch Wasanaeth Sifil ynghyd â chyfres o rolau meincnod yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ac mewn sefydliadau cymaradwy wedi’u lleoli yn y DU. Mae unrhyw gynnydd mewn cyflogau yn ddibynnol ar asesiad perfformiad boddhaol gan y Prif Weithredwr ac ar gymedroli gan PaRC. Mae amrediad cyflogau’r Tîm Gweithredol a’r Prif Swyddog Gweithredol yn yr adran ‘Cyflogau uwch-reolwyr CNC’.

Taliadau chwyddo a thaliadau ychwanegol

Gan ddibynnu ar ofynion y busnes, gall cyflogeion fod yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol canlynol a thaliadau chwyddo a thaliadau eraill yn ôl disgresiwn wrth gyflawni eu rôl. Mae'r rhain yn cynnwys lwfansau proffesiynol a gweithredol, ac ad-daliadau o gostau teithio a threuliau neu daliadau atodol ar sail y farchnad.

O bryd i’w gilydd, gall CNC ddewis cynnal ymarferion diswyddo er mwyn cefnogi newid sefydliadol. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd iawndal yn cael ei gynnig i gyflogeion ar sail y telerau sy'n gysylltiedig â'u cynllun pensiwn perthnasol (y mae dau ohonynt). Caiff pob gweithgarwch diswyddo ei gefnogi gan achos busnes sy'n cynnwys dadansoddiad cost a budd.

Cymharu cyflogau yn CNC

Y cyflog isaf o fewn CNC yw'r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog Gradd 1 (Cymorth Tîm) (£19,100 i £19,489). Mae CNC wedi’i achredu gan y Living Wage Foundation ac chaiff unrhyw gynnydd mewn cyflogau a roddir ym mis Tachwedd eu hôl-ddyddio i’r mis Gorffennaf blaenorol.

Y Prif Swyddog Gweithredol yw'r aelod o staff sy’n ennill y cyflog uchaf. Ceir cymariaethau cyflog sy'n ymwneud â'r aelod o staff ar y cyflog uchaf (y Prif Swyddog Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwyr gweithredol yn yr adran ‘Perthynoleddau cyflog o fewn CNC’.

Pecyn gwobrwyo a chydnabod ehangach 

Yn ogystal â chyflogau cyflogeion, mae CNC yn cynnig ystod gynhwysfawr o fuddion ariannol ac anariannol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys aelodaeth o gynllun pensiwn, mynediad at drefniadau aberthu cyflog, a chyfleoedd dysgu a datblygu, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, a chynlluniau llesiant cyflogeion.  Mae amrediad o drefniadau gweithio hyblyg ar gael hefyd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Adolygu'r datganiad hwn 

Bydd y datganiad hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob blwyddyn neu pan fo newidiadau sylweddol yn digwydd. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar drefniadau cyflog a oedd ar waith ar 31 Mawrth 2022.

Graddau, graddfeydd cyflog a nifer y gweithwyr yn CNC

Cyfoeth Naturiol Cymru / Graddfeydd cyflogau

Gradd

Ystod cyflog

Nifer y gweithwyr

Cyflog cyfwerth ag amser llawn

Gradd 11

 £67,537 - £72,627

26

25.24

Gradd 10

 £60,751 - £65,840

1

1

Gradd 9

 £54,011 – £58,961

75

74.04

Gradd 8

 £47,408 - £52,359

150

146.12

Gradd 7

(44 awr)

£48,351 - £54,223

1

1

Gradd 7

 £41,150 - £46,147

343

331.21

Gradd 6

(44 awr)

£43,836 - £47,947

30

30

Gradd 6

 £37,308 - £40,806

581

552.99

Gradd 5

(44 awr)

£38,629 - £42,569

19

18.48

Gradd 5

 £32,876 - £36,229

601

577.42

Gradd 4

(44 awr)

£33,374 - £37,703

9

9

Gradd 4

 £28,403 - £32,088

342

332.53

Gradd 3

 £25,326 - £28,077

119

114.34

Gradd 2

 £21,655 - £24,408

96

87.91

Gradd 1

Unwyd â Gradd 2 fel rhan o'r dyfarniad cyflog

0

0

Total:

 

2393

2301.28

Cyfarwyddwyr a'r Prif Swyddog Gweithredol

6

6

Secondeion yn

11

11

Secondeion allan

7

7

Prentisiaid (G1)

0

0

​Lleoliadau addusg uwch (G2)

6

6

 

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar gyflogau gwirioneddol fel ag yr oeddent ar 31 March 2023.

Pan roddodd CNC y cynllun gwerthuso swyddi ar waith yn 2018, cafodd y staff y dewis i ‘optio allan’ o'r cynllun a chadw eu hen raddfa gyflog. Felly, mae'r staff a wnaeth optio allan wedi'u cynnwys ar eu hystodau cyflog presennol ac nid ar eu graddau cyflog a fu’n destun gwerthusiad swydd.

Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys staff contract a staff asiantaeth.

Cyflogau uwch-reolwyr CNC 

Nifer y staff

Cyflog cyfwerth ag amser llawn
£000

1

145-149

0

140-144

0

135-139

0

130-134

0

125-129

1

120-124

2

115-119

1

110-114

0

105-109

1

100-104

0

95-99

0

90-94

0

85-89

Gellir gweld datgeliadau ychwanegol ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CNC.

Mae'r uchod yn cynnwys yr holl staff ar lefel y Prif Swyddog Gweithredol a lefel y cyfarwyddwyr gweithredol fel yr oeddent ar 31 March 2023. Roedd proses recriwtio yn mynd rhagddi ar gyfer dwy swydd ar y dyddiad hwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y ffigurau uchod.

Cymharu cyflogau yn CNC 

Y cyflog isaf o fewn CNC yw'r gyfradd gychwynnol o fewn ystod cyflog y staff Cymorth Tîm (Gradd 1). Nid yw hyn yn cynnwys prentisiaid sydd wedi'u cyflogi ar gontractau hyfforddiant. Y Prif Swyddog Gweithredol sy'n ennill y tâl mwyaf ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau isod yn seiliedig ar gyflogau fel ag yr oeddent ar 31 March 2023.

Cymarebau o’r lluosrifau o gyflog:

  • 1 i 6.70 - y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog isaf a chyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog mwyaf
  • 1 i 5.32 - y lluosrif rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr ar y cyflog isaf, a chyflog blynyddol cyfartalog aelod o’r Tîm Gweithredol
  • 1 i 3.89 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog y gweithiwr ar y cyflog mwyaf
  • 1 i 3.1 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog canolrif y cyfarwyddwr gweithredol
  • 1 i 2.98 - y lluosrif rhwng y cyflog canolrifol yn CNC (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) a chyflog cyfartalog y cyfarwyddwr gweithredol​
  • Y gweithiwr ar y cyflog uchaf –Band £145,000 i £149,000
  • Cyflog canolrifol y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) – £37,308
  • Cyflog cyfartalog y gweithlu (ac eithrio’r Tîm Gweithredol) – £38,649
  • Cyflog canolrifol y Tîm Gweithredol (heb ac eithrio’r Prif Swyddog Gweithredol) – £119,198
  • Cyflog cyfartalog y Tîm Gweithredol (ac eithrio’r Prif Swyddog Gweithredol) – £115,362

Swyddi presennol oddi ar y gyflogres

Nifer y swyddi cyfredol fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2023: 99

  • Mae 11 wedi bodoli am lai na blwyddyn ar adeg adrodd.
  • Mae 18 wedi bodoli am lai na dwy flynedd ar adeg adrodd
  • Mae 18 wedi bodoli am rhwng dwy a thair blynedd ar adeg adrodd
  • Mae 23 am rhwng tair a phedair blynedd ar adeg adrodd
  • Mae 30 wedi bodoli am fwy na phedair blynedd ar adeg adrodd

Mae’r manylion a ddangosir uchod ar gyfer gweithwyr a oedd yn ennill mwy na £245 y diwrnod mewn swyddi a oedd wedi para mwy na chwe mis ar 31 Mawrth 20232.

Mae’r rhan fwyaf o’r contractwyr yn cefnogi’r tîm TGCh i ddatblygu a thrawsnewid ein systemau TGCh.

Deiliaid swydd newydd oddi ar y gyflogres 

Nifer y deiliaid swydd newydd, neu'r deiliaid swydd hynny a fu yn eu swydd ers chwe mis, rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 (32), yr oedd y nodweddion isod yn perthyn i’r nifer a ganlyn:

0 – y nifer yr aseswyd eu bod yn dod o dan drefniadau IR35

21 – y nifer yr aseswyd nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35

0 – y nifer a gyflogir yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres CNC

9 – nifer y deiliaid swyddi a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb/sicrwydd yn ystod y flwyddyn.

0 – nifer y deiliaid swyddi a welodd newid i'w statws IR35 o ganlyniad i’r adolygiad cysondeb.

Trefniadau Aelodau'r Bwrdd

Categori

 CYFANSWM
(Nifer)

 CYFANSWM
(Cyflog cyfwerth ag amser llawn)

Nifer swyddi oddi ar y gyflogres aelodau’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol. 

 AMH.

AMH.

Nifer yr unigolion yr ystyrir y buont yn aelodau’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn ariannol.  Dylai'r ffigur hwn gynnwys deiliaid swydd sydd oddi ar y gyflogres ynghyd â deiliaid swyddi sydd arni

12

2.4

Nifer yr unigolion a fu’n aelodau’r Bwrdd ar 31/03/2023.Dylai'r ffigur hwn gynnwys deiliaid swydd sydd oddi ar y gyflogres ynghyd â deiliaid swydd sydd arni

12

2.4

Diweddarwyd ddiwethaf