Cynllun Galluogi Cymunedau ac Adfywio 2015-2020
Bydd y Cynllun yn arwain ein staff a’n partneriaid wrth iddynt weithio i gyflawni’r canlynol:
- Dealltwriaeth gyhoeddus gynyddol o adnoddau naturiol a’r gofal amdanynt – gan arwain at newid mewn ymddygiad a ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy
- Gwell tegwch cymdeithasol a chydlyniad cymunedol
- Mwy o fuddiannau economaidd i bobl a chymunedau – gan leihau lefelau tlodi
Bydd y ddarpariaeth yn cael ei monitro drwy gynllun Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau.
Cynllun pellgyrhaeddol
Mae’r Cynllun yn cyflwyno ein hamcanion ar gyfer ein gwaith gyda chymunedau. Mae ganddo gwmpas eang – mae’n cwmpasu’r ffordd yr ydym yn:
- rhedeg ein busnes a galluogi eraill i ddefnyddio’r tir yr ydym yn ei reoli i ddarparu amrediad o fuddiannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol (rydym yn rheoli 7% o dir Cymru yn uniongyrchol – ac mae rhan sylweddol ohono yn agos at fannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio: 120,000ha o goetir, 42 Gwarchodfa Natur Genedlaethol a 5 Canolfan Ymwelwyr)
- cynghori a chefnogi eraill i ddarparu buddiannau pellgyrhaeddol tebyg i gymunedau ledled Cymru
Sefydliad galluogi allweddol
Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel sefydliad galluogi yn allweddol i’r cynllun hwn. Bydd hwyluso a gweithio ar y cyd ag eraill yn rhan greiddiol o’n gweithgaredd.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Cynllun Galluogi Cymunedau ac Adfywio 2015 - 2020
PDF [681.6 KB]
Cynllun Gweithredu (Saesneg yn unig)
PDF [654.2 KB]
Cynllun Atebolrwydd Seiliedig ar Ganlyniadau Dangosol (Saesneg yn unig)
PDF [276.9 KB]
Gweithio gyda chymunedau hawdd ei ddeall
PDF [13.9 MB]
Gweithio gyda chymunedau Fersiwn hawdd i'w deall a'i hargraffu
PDF [13.9 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf