Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn mynnu ein bod yn ystyried cadwraeth natur fel rhan o'n rôl reoleiddiol. Mae hyn yn cynnwys asesu effaith llygryddion aer ar safleoedd cadwraeth natur.

Yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni'n cynnal proses sgrinio yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael er mwyn asesu effeithiau gosodiadau.

Y cam cyntaf yw gwirio a oes yna unrhyw safleoedd cadwraeth o fewn pellteroedd penodedig i'r gosodiad. Caiff amcan o gyfraniad y broses ac amcan o’r crynodiad amgylcheddol sy'n deillio o osodiadau rheoleiddiedig eu cymharu wedyn â throthwyau a fynegwyd fel canrannau o Safonau Ansawdd Aer, lefelau critigol a llwythi critigol.

Safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol

Mae'r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a adwaenir hefyd fel y Rheoliadau Cynefinoedd, yn cynnwys safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig). Mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn mynnu ein bod yn sgrinio unrhyw gais am drwydded ar gyfer effeithiau posibl ar integredd ecolegol safle Ewropeaidd ar ei ben ei hun ac wedi'i gyfuno â ffynonellau perthnasol eraill.

Safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Rhoddwyd rhagor o gyfrifoldebau i ni o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae'n ofynnol inni asesu unrhyw gais am drwydded ar gyfer gosodiad sy'n debygol o niweidio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Diweddarwyd ddiwethaf