Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’n golygu bod rhaid i ni wneud ein gwaith mewn ffordd gynaliadwy, a meddwl am yr effaith gall ein gwaith gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.

Rhaid i ni weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i:

  • Gydweithio’n well
  • cynnwys pobl, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau
  • edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
  • cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf

Cewch wybod mwy am y ddeddf a pham fod ei angen arnom ar dudalen wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd mae yna ffilm animeiddiedig fer sy’n esbonio’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar bobl sy’n byw yng Nghymru.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r byrddau hyn wedi cael eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn disodli Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSB) oedd ar waith yn flaenorol.

Eu diben yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gydweithio i gyflawni’r nodau llesiant.

Ceir 19 o fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a bydd 20 o Asesiadau Llesiant Lleol drafft yn cael eu llunio yn barod ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus yn eu cylch.

Aelodau Statudol pob un o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw:

  • Yr awdurdod lleol
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol
  • Yr Awdurdod Tân ac Achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ychwanegol at yr aelodau statudol, bydd yr holl Fyrddau Gwasanaethau Lleol yn gwahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan:

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabliaid
  • Comisiynydd yr heddlu a throseddu
  • Ambell Wasanaeth Prawf
  • O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol
  • Ymhellach, bydd Byrddau Gwasanaethau Lleol yn gallu gwahodd sefydliadau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus i gymryd rhan

Asesiadau o les lleol 

Mae pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) wedi cynnal asesiad o les yn eu hardal, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015  a’i ganllawiau statudol ac anstatudol cysylltiedig.

Fe ddatblygwyd asesiadau o les lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) drwy ddefnyddio data a thystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau. Mae yna 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd yna 20 drafft  Asesiad o Les Lleol yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae CNC yn aelod statudol o bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru. Rydym wedi cyflwyno data a thystiolaeth sydd gennym neu mae gennym fynediad iddo ar faterion adnoddau naturiol ac amgylcheddol, i gyfrannu at yr asesiadau drafft hyn.

Bellach rydym wedi cwblhau’r asesiadau terfynol o les lleol, ac mae’r tîm Partneriaethau Llywodraeth Lleol wedi cyhoeddi dolenni’r we ar ei gwefan: Asesiadau lles y Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus 

Sylwadau ar asesiadau llesiant lleol drafft gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Gallwch ddarllen sylwadau unigol Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob un o asesiadau llesiant drafft y 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cynlluniau Lles Lleol

Mae’r cynllun lles lleol yn nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu’r Bwrdd  Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) am y pum mlynedd nesaf i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pob ardal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n cyflwyno  amcanion, blaenoriaethau lles lleol a bydd hefyd yn cyflwyno’r camau mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion lles.

Bellach mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dechrau gwneud camau pendant  i gyflawni eu hamcanion a’u blaenoriaethau lles. Byddwn yn rhannu'r rheini pan fyddant yn barod.

I edrych ar y cynlluniau a chael gwybod beth fydd pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei wneud ewch i’r dolenni canlynol:

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell nedd Port Talbot 

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Dinbych

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam

Diweddarwyd ddiwethaf