Sut rydym ni’n rheoleiddio cemegion


Mae rhai sylweddau yn gallu niweidio’r amgylchedd am eu bod yn wenwynig, yn hirbarhaus ac yn dueddol o fiogynyddu. Unwaith y byddan nhw yn yr amgylchedd, neu mewn anifeiliaid neu bobl, mae’n anodd iawn cael gwared arnyn nhw.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu’r gwasanaeth cofrestru i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheoleiddio cemegion.

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth a gorfodaeth yng Nghymru.

Deuffenylau Polyclorinedig (PCBs)

Os ydych chi neu’ch cwmni yn berchen ar gyfarpar trydanol a gynhyrchwyd cyn 1987, mae’n bosib y byddan nhw’n cynnwys PCBs ac mae’n rhaid i chi wirio eich bod chi’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae PCBs wedi’u dosbarthu fel Llygryddion Organig Parhaus ac mae yna waharddiad ar eu cynhyrchu. Fodd bynnag, maen nhw’n dal i fod yn broblem oherwydd eu bod wedi cael eu defnyddio mor helaeth yn y gorffennol.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch ni ar 0300 065 3000

Llygryddion Organig Parhaus (POPs)

Mae POPs yn cronni ym meinweoedd brasterog organebau ac am eu bod nhw’n diraddio’n araf maen nhw’n biogynyddu mewn cadwyni bwyd lle maen nhw’n gallu achosi risg i iechyd pobl a’r amgylchedd.

Mae POPs yn gyfansoddion sy’n cynnwys carbon sy’n bodloni’r meini prawf asesu cemegol ar gyfer sylweddau Parhaus, Biogronnol a Gwenwynig (PBT) e.e. DDT a diocsinau.

Mae Rheoliadau POPs yr UE:

  • yn gwahardd neu’n cyfyngu ar gynhyrchu, defnyddio a gwerthu cemegion Llygryddion Organig Parhaus rhestredig;
  • yn gofyn am ymdrechion i sicrhau nad oes cymaint o isgynhyrchion organig parhaus yn cael eu creu’n anfwriadol;
  • yn disgrifio sut ddylid rheoli pentyrrau o POPs (darllenwch y wybodaeth ganlynol)

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â POPs a sut i gydymffurfio ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rheoliad REACH

Nod Rheoliad REACH (Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a chyfyngu ar Gemegion) 2006 yw:

  • darparu amddiffyniad heb ei ail i iechyd pobl a’r amgylchedd;
  • gwneud gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr yn gyfrifol am reoli risgiau;
  • caniatáu i sylweddau gael eu symud yn rhydd ym marchnad yr UE;
  • gwella gallu diwydiant cemegion yr UE i gystadlu;
  • hyrwyddo dulliau eraill o asesu peryglon

Mae’r Rheoliad:

  • yn gofyn i weithgynhyrchwyr a mewnforwyr sylweddau cemegol gasglu gwybodaeth am beryglon ac asesu risgiau;
  • yn gallu mynnu bod defnydd rhai sylweddau sy’n beryglus iawn yn cael ei awdurdodi;
  • yn cyfyngu ar farchnata a defnyddio rhai cemegion a chymysgeddau peryglus
Diweddarwyd ddiwethaf