Ystad yr Hafod, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi arwyddo cytundeb les yn trosglwyddo rheolaeth yr Hafod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn gofalu am 200 hectar yn yr Hafod, gan gynnwys y tiroedd helaeth, yr gerddi hanesyddol sydd wedi’u hadfer a’r llwybrau cerdded.

 

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am ymweld â’r Hafod a bydd yn parhau’n fyw am gyfnod penodol.

 

Croeso

Cynlluniwyd Ystâd yr Hafod ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac yn fuan daeth yn gyrchan hanfodol bwysig i ymwelwyr oedd yn teithio ar hyd Cymru yn chwilio am “natur gwyllt”.

Mae’r llwybrau cerdded yn ymlwybro ar hyd tirwedd hanesyddol sy’n amrywio’n eang o ran natur, o barcdir pori a gwahanol fathau o goetir i geunant yr Afon Ystwyth gyda’i bontydd a’i rhaeadrau.

Adeiladodd Johnes dŷ newydd yn y lleoliad anghysbell hwn a chynllunio gerddi yn y steil Pictiwrésg, oedd yn ffasiynol ar y pryd.

Cynlluniodd y llwybrau cerdded er mwyn i ymwelwyr fedru mwynhau’r tirlun fel cyfres o olygfeydd sy’n newid yn gyson.

Heddiw mae’r plasty wedi mynd, a Hafod yn gorwedd o fewn coedwig weithiol.

Ymweld â Ystâd yr Hafod

The National Trust now cares for 200 hectares at Hafod, including its extensive grounds, restored historic gardens and walking trails.Ceir yna pum llwybr cerdded sy’n amrywio o ran hyd a graddfa ac sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio. 

Maent yn cynnwys dau lwybr cylchol clasurol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod - Rhodfa’r Bonheddwr sy’n llafurus a Rhodfa’r Foneddiges sy’n rhwyddach.

Mae’r ddau lwybr hanesyddol hyn yn mynd â chi heibio i nodweddion Pictiwrésg fel Lefel Lampwll, Y Bont Wladaidd, Twnnel a Rhaeardr ‘Mossy Seat’.

Hefyd gallwch ymweld â’r eglwys, Eglwys Newydd, adeiladwyd gan Johnes yn 1803 a’r unig adeilad sylweddol sydd wedi goroesi o’r adeg hynny.  Heddiw mae’n gartref i arddangosfa am hanes yr ystâd.

Mae mannau picnic yn y prif faes parcio ac wrth ymyl yr afon ar Rodfa’r Foneddiges, a thoiledau symudol yn y prif faes parcio.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybrau cerdded wedi’u harwyddo o brif maes parcio'r Hafod.

Darllenwch ddisgrifiadau o’r llwybrau i wneud siŵr eich bod yn dewis taith gerdded sy’n addas i chi.

Sylwer:

  • Nad yw pob llwybr cerdded yn cychwyn yn y maes parcio ac felly mae angen i chi ddilyn rhan o lwybr cerdded arall neu lwybr cyswllt i gyrraedd y man cychwyn
  • Mae’r pellteroedd a roddir isod yn dangos hyd y llwybr a chyfanswm pellter y daith o’r maes parcio ac yn ôl  (ar gyfer y llwybrau hynny nad ydynt yn cychwyn o’r maes parcio)
  • Mae camfeydd, tir serth a grisiau ar yr holl lwybrau cerdded sydd ag arwyddbyst

Mae canllaw llwybrau cerdded yn cynnwys map a disgrifiad o'r llwybrau i gyd.

Gallwch lawrlwytho PDF o'r canllaw llwybrau cerdded (gwelir gwaelod y tudalen hwn).

Taith Cofgolofn Bedford

  • Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr
  • Lefel: Cymedrol
  • Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y daith gylchol hon yw’r byrraf o’r maes parcio. Mae’n gwneud cylchdaith o grib Cefn Creigiau ac yn osgoi’r ddisgynfa serth i waelod y dyffryn. 

Nid yw’n un o gylchdeithiau hanesyddol Johnes, ond mae’n arwain at gofgolofn a godwyd yn 1805 i goffáu'r pumed Dug Bedford.

Rhyfeddwch at y golygfeydd dros yr Hafod a thu hwnt o olygfan yr obelisg.

Taith Goed Hafod

  • Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr un ffordd (1 ½/2.4 cilomedr milltir yno ac yn ôl ar hyd llwybr dychwelyd awgrymedig)
  • Lefel: Cymedrol
  • Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Llwybr cerdded cul  (un ffordd) drwy’r goedwig . Mae angen i chi benderfynu ar lwybr dychwelyd drwy ddefnyddio llwybrau eraill neu lonydd eraill yr ystâd (mae llwybr dychwelyd awgrymedig wedi ei farcio ar y map). 

Mae Taith Goed Hafod yn mynd trwy wahanol fathau o goetir sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Yn y gwanwyn  mae’r coetiroedd yn lliwgar gyda chlychau’r gog a eilgorros melyn.

Mae gan y llwybr golygfeydd  o’r afon, llyn a chaeau’r plasty, a’r bryniau yn y pellter.

Taith Ceunant Ystwyth

  • Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr (2 filltir/3.2 cilomedr cyfanswm pellter o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd Rhodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)
  • Lefel: Cymedrol
  • Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y ffordd gyflymaf i fynd ar Daith Ceunant Ystwyth yw dilyn Rhodfa’r Foneddiges gyda’r cloc, heibio i’r eglwys tuag at arwydd man cychwyn y daith. Er pa mor ddramatig mae’r golygfeydd ar hyd y llwybr cerdded, mae’r graddiannau ar hyd rhan fwyaf o’r llwybr yn eithaf rhwydd, ond mae yna ddisgynfeydd serth wrth ochr y llwybr.

Profwch geunant trawiadol yr Afon Ystwyth o’r Bont Grog, yn enwedig ar ôl glaw trwm.

Mae’r llwybr ysblennydd hwn yn eich arwain ar hyd dolen gul a hir i fyny un ochr ceunant Ystwyth ac i lawr y llall. 

Rhodfa’r Foneddiges (yn cynnwys Taith y Gerddi)

  • Pellter: 2¼ milltir/3.6 cilomedr
  • Lefel: Cymedrol
  • Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Mae Rhodfa’r Foneddiges yn un o ddau lwybr cylchol clasurol cafwyd eu creu gan Thomas Johnes yn ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod, ac a ddisgrifiwyd gan nifer fawr o ymwelwyr cynnar. 

Dilynwch y llwybr hanesyddol heibio i raeadr a nodweddion allweddol o ystâd Thomas Johnes.

Gwelir golygfeydd sy’n amrywio’n eang o ran cymeriad, gyda thir pori tonnog y parcdir yn cyferbynnu gyda dyffrynnoedd coediog cul a nentydd gwyllt.

Ar hyd y llwybr, ceir dewis rhwng Taith y Gerddi - llwybr coetir cul ond eithaf gwastad sy’n mynd drwy’r ardd flodau - neu lwybr y ddôl sy’n  mynd ar hyd glannau’r afon.

Rhodfa’r Bonheddwr

  • Pellter: 3¾ milltir/6 cilomedr (5¾ milltir/9 cilomedr i gyd, o’r maes parcio ac yn ôl drwy Rodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)
  • Gradd: Anodd
  • Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Bydd yn rhaid i chi ddilyn Rhodfa’r Foneddiges o chwith i gyrraedd y man cychwyn.  Rhodfa’r Bonheddwr yw’r llwybr mwyaf anodd o lwybrau’r Hafod, a dylech fod yn weddol heini gydag esgidiau addas ar gyfer tir serth ac anwastad. Sylwch bod ogof Lefel Lampwll ar gau oherwydd rhesymau diogelwch.

Rhyfeddwch ar y nodweddion Pictiwrésg fel y Bont Wladaidd, Twnnel, a Rhaeadr ‘Mossy Seat’ ar y llwybr hanesyddol hwn. 

Mae Rhodfa’r Bonheddwr, yr ail gylchdaith crëwyd gan Johnes, yn mynd trwy olygfeydd gwylltach a thir sy'n fwy serth na’r llwybrau cerdded eraill yn yr Hafod.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae yna fannau parcio i’r anabl yng Ngardd Flodau Mrs Johnes.

O’r fan hon, gallwch fynd am dro bach rhwydd o amgylch yn ardd gyda golygfeydd dros yr Afon Ystwyth a safle picnic ar lan yr afon.

Mae yna doiled symudol hygyrch yn y prif faes parcio (ger yr eglwys).

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Ystad yr Hafod 15 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Ceir arwyddion brown i roi arweiniad i chi o Bontarfynach ar hyd y B4574 i brif faes parcio’r Hafod.

Map Arolwg Ordnans

Mae Ystad yr Hafod ar fap 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod yr OS yw SN 768 736.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A4120 o Aberystwyth tuag at Bontarfynach.

Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn o Bontarfynach drwy'r B4574 i'r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Manylion cyswllt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi arwyddo cytundeb les yn trosglwyddo rheolaeth yr Hafod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn gofalu am 200 hectar yn yr Hafod, gan gynnwys y tiroedd helaeth, yr gerddi hanesyddol sydd wedi’u hadfer a’r llwybrau cerdded.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf