Parc Coedwig Coed y Brenin - Pont Cae'n-y-coed, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Pont Cae'n-y-coed yn faes parcio bach ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Mae’n fan cychwyn Llwybr Llosgfynydd sydd yn ymweld â nifer o brif nodweddion y goedwig.

Ar un adeg roedd Pont Beili dros dro yma er mwyn cludo coed o’r ochr draw i Afon Mawddach.

Y dyddiau hyn mae beicwyr mynydd a cherddwyr yn defnyddio’r bont newydd fel cyswllt hanfodol i’r tiroedd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.  

Llwybr Llosgfynydd

  • Uchafbwyntiau: Dewch i ddarganfod hanes daearegol diddorol Coed y Brenin. Mwynhewch olygfeydd ysblennydd o fynyddoedd cyfagos Meirionnydd.
  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 6¾ milltir, 10.8 cilomedr
  • Disgrifiad y llwybr: Ar y llwybr cylchol heriol hwn, byddwch chi’n ymweld â sawl nodwedd allweddol yn y goedwig, gan gynnwys y gors gopr a phwynt uchaf parc y goedwig – Moel Hafod Owen. Cofiwch ddarllen y pum panel gwybodaeth i’ch helpu i archwilio hanes folcanig trawiadol Coed y Brenin.

Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau serth a chul sy’n aml yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed ar hyd peth o’r tir garwaf dan draed yn y goedwig gyfan.

Mae grisiau i’w cael ar y ddringfa serth i ben Moel Hafod Owen ble gwelwch fainc ar y copa i gael picnic haeddiannol wrth fwynhau’r olygfa.

Os hoffech gael blas ar antur go iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi’n dda ar gyfer diwrnod hir yn y goedwig.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Bont Cae'n y Coed, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o leoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd. Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Gardd y Goedwig – dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu
  • Glasdir – hen waith copr yng nghefn gwlad sydd â llwybr hygyrch tuag at olygfan uwchben yr hen offer cloddio
  • Pont Ty'n-y-groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon hygyrch a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae maes parcio Pont Cae'n-y-coed oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 733 251.

Cyfarwyddiadau

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i'r chwith yn syth ar ôl yr arwydd terfyn cyflymder 40mya. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

Ffôn: 01341 440747

E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr Llosgfynydd PDF [1019.4 KB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf