Parc Coedwig Gwydir - Mainc Lifio, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Mainc Lifio yw'r man cychwyn ar gyfer llwybr cerdded byr a dau lwybr beicio mynydd o fri.

Mae’r llwybr cerdded yn cynnwys nodweddion hanesyddol ac mae golygfeydd dros Ddyffryn Conwy.

Mae’r llwybrau beicio mynydd yn cynnwys Gwydir Mawr sy’n glasur go iawn a llwybr Gwydir Bach sy’n fyr a chryno.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Arglwyddes Fair

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1¼ milltir/2.1 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn eich arwain drwy gyfuniad o ffyrdd coedwig llydan a llwybr gydag arwyneb anwastad garw lle gallwch ddisgwyl rhywfaint o fwd, cerrig a gwreiddiau coed. Ceir rhwystr igam ogam ar ddechrau'r llwybr, ac ar ben y bryn cyntaf, gyda bwlch o tua 60 cm i gerdded drwyddo. Byddwch yn mynd drwy rwystr igam ogam arall, gan ddilyn llwybr anwastad garw i ailymuno â ffordd y goedwig lle byddwch yn dilyn y llwybr i'r Llain Fowlio Duduraidd, lle ceir bwrdd picnic a mainc cyn gweld yr olygfa olaf i lawr Dyffryn Conwy ar y ffordd i'r maes parcio.

Mae’r daith gerdded hanesyddol fer hon yn cynnwys rhai golygfannau yn rhoi cipolwg ar hen dref farchnad Llanrwst.

Enwyd y daith gerdded hon ar ôl un o ddwy Fonesig Fair o’r teulu Wynn a brynodd y tir ac a adeiladodd yr Ystâd Gwydir hanesyddol.

Mae’r daith gerdded yn cynnwys dau gerflun gan artistiaid lleol, un yn gofeb i hen Neuadd Tref Llanrwst.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Gwydir Bach

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 9.1 cilomedr
  • Dringo: 350 medr
  • Amser: 45 muned-1½ awr

Gwydir Bach yw chwaer fach y brawd mawr, Gwydir Mawr.

Ar ôl dwy ddringfa serth, fyddwch yn haeddu ‘r ddisgynfa orau, o bosib, ar y llwybr cyfan, i gyd ynghlwm mewn un darn cryno.

Gwydir Mawr

  • Gradd: Coch/Anodd
  • Pellter: 24.8 cilomedr
  • Dringo: 800 medr
  • Amser: 2-4 awr

Mae Gwydir Mawr yn un o’r llwybrau beicio mynydd gwreiddiol, ac mae’n glasur go iawn!

Mae’r dringfeydd mawr, disgynfeydd mawr, trac sengl gwych a golygfeydd godidog yn ei wneud yn llwybr i’w gofio.

Nawr yn cynnwys adran dwy gilomedr newydd sbon gyda chymysgedd o lwybr traddodiadol cloddiwyd â llaw a nodweddion llwybr llif modern.

Gallwch ddechrau Gwydir Mawr o faes parcio Hafna hefyd.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Mainc Lifio filltir i'r gorllewin o Lanrwst.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Mainc Lifio ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 790 609.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.

Ar ôl troi i'r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i'r dde yn syth i ddilyn isffordd.

Cymerwch y ffordd goedwig gyntaf ar y chwith gyda’r arwydd Sawbench/Mainc Lifio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf