Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau...
Teithiau cerdded drwy goetir gyda golygfeydd i gyfeiriad Bannau Brycheiniog
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Golygfa Ban (Beacon View) yw'r man cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded trwy goetir heddychlon Beacon Hill.
Mae'r ddwy daith yn arwain trwy ardaloedd o rostir sy’n ail-adfer. Cafodd y mannau agored hyn eu clirio o goed pinwydd er mwyn i'r grug ddychwelyd. Mae merlod pori yn helpu i gadw rhywogaethau ymosodol rhag meddiannu’r rhostir.
Mae gwylfannau ar hyd y ffordd lle gallwch fwynhau golygfeydd eang dros Ddyffryn Gwy.
Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r harddaf ym Mhrydain.
Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn: clychau'r gog yn y gwanwyn, dail haf toreithiog ffrwythlon, lliw hydrefol gwych, a harddwch silwetau coed y gaeaf.
Mae’r gwylfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws ceunant Afon Gwy a’r afon ei hun, drosodd i Fôr Hafren a hen Bont Hafren. Gallwch fwynhau'r golygfeydd gwych hyn trwy gydol y flwyddyn ond yn enwedig yn y gaeaf, pan fydd y dail wedi disgyn.
Mae'r golygfeydd naturiol, cwbl wefreiddiol, sydd i’w gweld yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, ac yn eu plith arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.
Mae’r coetiroedd wedi’u lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy (AHNE).
Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig ac iddi bwysigrwydd rhyngwladol ac mae’n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o hyd o Afon Gwy sy'n cael ei gydnabod oherwydd y golygfeydd ysblennydd o geunant, coetiroedd dyfnant a thir amaeth a geir yma.
Dewch i ddarganfod mwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.
Sylwch:
Mae'r llwybrau cerdded wedi'u dynodi ac yn cychwyn o faes parcio Beacon View.
1½ milltir, 2.4 cilomedr, hawdd
Mae'r Llwybr Ban yn daith gerdded gylchol ar lwybrau llydan, gwastad yn bennaf trwy goetiroedd ac ardaloedd agored o rostir sy'n ail-adfer. Mae gan yr wylfan fainc picnic a golygfeydd dros Fannau Brycheiniog.
3 milltir, 4.7 cilomedr, hawdd
Mwynhewch y rhostiroedd a'r coetiroedd sydd i’w gweld ar y daith gerdded gylchol hon sy’n daith wastad gan mwyaf ac yn arwain at lôn o goed Pinwydd yr Alban anferth a gwylfan Taith Grwydr Duchess Ride. Yn y fan hon ceir mainc ynghyd â golygfeydd gwych o Ddyffryn Gwy ac, ar ddiwrnod clir, gallwch weld draw tuag at y Mynyddoedd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ym Manor Wood, ym mhentref cyfagos Narth, mae taith gerdded ddynodedig 1¾ milltir (3 cilomedr) o hyd.
Mae safle picnic ar laswellt ac ardal chwarae i blant yn y man parcio bychan wrth ymyl y ffordd yn y fan hon.
Mae Beacon View yn chwe milltir i'r de o Drefynwy.
Mae yn Sir Fynwy.
Mae'r maes parcio hwn am ddim.
O Dyndyrn, dilynwch yr arwydd am Catbrook ar y gyffordd wrth ymyl Gwesty Dyffryn Gwy. Dilynwch y ffordd hon am tua 2½ milltir. Trowch i'r chwith ar y gyffordd T gyferbyn â maes parcio Whitestone. Cymerwch y trydydd troad ar y dde, gyferbyn â Beacon Lodge, ac mae maes parcio Beacon View ar y dde ar ôl ¼ milltir. Cyfeirnod grid yr OS yw SO 510 052.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Mae Beacon View ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 14.
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 510 052.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk